Navigation Menu+

(CY) 35 Summers – Mark McNulty

Posted on Oct 11, 2022 by in cy

15 Hydref 2022 - 21 Ionawr 2023

English

 

Mae  - 35 SUMMERS - yn dathlu tua 35 mlynedd o ffotograffau cerddoriaeth gan Mark McNulty. Dyma’r ôl-sylliad llawn cyntaf o’i archif eang o ffotograffau cerddoriaeth.

 


The Gallery is currently open Tuesday to Saturday (inclusive) between 12.30pm and 5pm.

We also continue through until 9pm on days that the theatre/cinema is operating for shows in the evening. Please check theatre/cinema opening schedule here -> www.theatrcolwyn.co.uk


 

Ganed Mark McNulty yn Lerpwl, ac mae wedi bod yn ffotograffydd proffesiynol ers dros 30 o flynyddoedd. Mae’n adnabyddus am ei waith masnachol o fewn y diwydiant cerddoriaeth a dathlwyd ei gasgliad enfawr o waith dogfennol personol ar themâu diwylliant poblogaidd a cherddoriaeth yn ddiweddar gan yr Archif Diwylliant Prydeinig, Llyfrau Café Royal a’r Oriel Saatchi.

Dywed Mark "Mae hi’n tua 35 mlynedd, gan fod y llinellau yn aml yn aneglur, nid oedd camerâu bob amser yn nodi’r amser a’r dyddiad o fewn metadata’r lluniau bryd hynny a doeddwn i ddim yn gwneud nodyn ohonynt."

Cyflwynir 35 Summers yn bennaf fel llinell amser gronolegol o’i waith yn ymwneud â cherddoriaeth sy’n mynd yn ôl dros 35 o flynyddoedd.

 

 

The La's, at the Earthbeat festival, Sefton Park, Liverpool, August, 1987.  ©Mark McNulty

 

"Mae’n dechrau yng nghanol y 1980au ar ŵyl banc mis Awst 1987, pan dderbyniais fy nhocyn mynediad i bob ardal cyntaf yng Ngŵyl Earthbeat ym Mharc Sefton Lerpwl, mae’n benwythnos y byddaf bob amser yn edrych yn ôl arno fel dechrau’r cyfan. Roeddwn mewn band o’r enw Eat My Dog ac roedd ein gig gyntaf ar y slot prynhawn Gwener yn yr ŵyl. Dyma’r tro cyntaf a’r tro diwethaf i mi fod ar lwyfan (Roeddwn i’n eu dal nhw’n ôl) ac Eat My Dog oedd y band cyntaf i mi dynnu portreadau ohonynt."

 
 

Maxine, Earthbeat Festival, 1987. ©Mark McNulty

 

"The festival organisers, a group of people called Visual Stress, also produced these incredible Urban Vimbusa events that mixed performance art, tribal rituals, protest and music together and I also started to photograph some of these performances including the Perestroika in the Avant-Garde performance with Sergey Kuryokhin at Liverpool’s St.George’s Hall." 

 

Yna, dechreuodd Mark ddogfennu’r sîn rave a oedd ar gynnydd yn y DU a’r pwynt lle croesodd y sîn glybio a’r sîn gerddoriaeth, a threuliodd lawer o’r 1990au yn dogfennu digwyddiadau, a gweithio gyda cherddorion, ar draws y byd, tra hefyd yn gweithio’n eang i gwmnïau recordiau a chylchgronau cerddoriaeth.

 

 

Eddie Fowlkes outside Motown in Detroit. ©Mark McNulty

 

Mae gwaith Mark wedi’i arwain ar draws y byd; yn dogfennu cerddoriaeth o’r sîn techno yn Detroit…

 

 

Berlin Love Parade, 1999. ©Mark McNulty

 

... Love Parade Berlin ...

 

 

Liverpool superclub Cream hosting their weekly summer night at Amnesia in the mid 1990's in Ibiza. ©Mark McNulty

 

... y sîn glybio yn Ibiza...

 

 

Portishead photographed in Portishead in 1995, around the time of the launch of their debut album Dummy. ©Mark McNulty

 

... neu ar deithiau gyda bandiau megis Space, Portishead a Travis.

 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Mark wedi bod yn dogfennu digwyddiadau megis blwyddyn Dinas Diwylliant Lerpwl, gan weithio fel ffotograffydd ar gyfer amrywiol wyliau cerddorol a theithio gyda cherddorfeydd.

Mae Mark McNulty yn byw yng Ngogledd Cymru ac yn parhau i weithio ar waith comisiwn a phersonol ym meysydd cerddoriaeth a diwylliant poblogaidd. a"Mae’r blynyddoedd cynnar hynny wedi bod yn lasbrint ar gyfer llawer o’m gwaith ers hynny.  Rwy’n dal i ddogfennu cerddoriaeth a cherddorion, er ei bod hi’n llai tebygol dod o hyd i mi mewn clybiau nos y dyddiau hyn!”

www.markmcnulty.co.uk