Navigation Menu+

(CY) Home: In Another Land – Glenn Edwards (+Vanley Burke)

Posted on Feb 12, 2023 by in cy

13th February 2023 - 22nd April 2023

English

 

 

Mae'r arddangosfa hon yn bortread o'r cymunedau Affricanaidd a Charibïaidd yn y DU. 

Mewn cyferbyniad, mae ffotograffau lliw digidol Glenn Edwards yn canolbwyntio ar y degawd diwethaf a phrofiad cymunedau Affricanaidd yng Nghymru yn arbennig. 

 

Double 4 African Cafe-Newport.  ©Glenn Edwards

 

Mae ffotograffau ffilm du a gwyn Vanley Burke yn rhoi cipolwg o gymunedau Caribïaidd y 1970au-90au yng nghanolbarth Lloegr gan bortreadu bywyd personol, cymdeithasol ac economaidd pobl dduon wrth iddynt gyrraedd, ymsefydlu ac ymgartrefu yng nghymdeithas Prydain.

 

Dominoes at The Bulls Head, Lozells Road. 1988 - ©Vanley Burke

 

Mae'n dechrau gyda deialog bwysig rhwng 2 artist o wahanol gefndiroedd - y ffotograffydd Jamaicaidd Prydeinig Vanley Burke a'r ffotonewyddiadurwr Prydeinig Glenn Edwards. Denwyd y ddau artist at ei gilydd wrth iddynt ymdrechu i adrodd hanes cymunedau du Prydeinig. 

Mae waliau allanol yr oriel yn arddangos ffotograffau Glenn Edwards sy’n ymestyn dros y 6 mlynedd diwethaf ac yn dogfennu amrywiaeth o gymunedau Affricanaidd gwahanol sy’n byw ar hyd a lled Cymru. Gan ddechrau’r siwrne gyda bendith babi newydd a gorffen gyda ffarwel mab yng ngwasanaeth coffa ei fam, yr hyn a welwn rhyngddynt yw cipolwg ar fywydau preifat a chyhoeddus pobl – y diwylliannau gwahanol, yr hunaniaethau deuol, y crefyddau, y dathliadau, y cerddoriaeth, y  cyflawniadau, y gweithredoedd ar gyfer newid a'r straeon personol sy'n ein clymu ni i gyd. 

 

Africa Day - Rodney Parade, Newport - ©Glenn Edwards

 

Mae’r ffotonewyddiadurwr Glenn Edwards, sydd wedi ennill gwobr ffotograffydd wasg y flwyddyn, wedi teithio’n eang yn dogfennu ar gyfer sefydliadau newyddion cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys The Times a The Independent. Ef ac Olu Oni yw sylfaenwyr Affrica Welsh News, papur newydd ar-lein: 

“Ei nod yw llwyfannu straeon newyddion da am Affrica o safbwynt Cymreig a chreu cyfleoedd a rhannu sgiliau ar gyfer y gymuned Affricanaidd yng Nghymru” 

 - GLENN EDWARDS

 

Mae’r artist a’r ffotograffydd Vanley Burke wedi’i wobrwyo â Chymrodoriaeth er Anrhydedd y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol yn 2021 ac mae wedi arddangos yn eang gan gynnwys TATE Britain. 

"Mae e just am y gallu i weld rhywbeth efallai na fydd pobl eraill yn gallu gweld, o ran y gwerth. Wedyn dangos i bobl. Mae angen iddyn nhw weld eu cyfraniad i'r gymuned hon. Mae nhw wedi bod yn cyfrannu at y peth hwn o'r 50au ac mae wedi mynd y tu hwnt, ond does dim record ohono yn unman. Mae e amdano cael eu hunain wedi eu adlewyrchu, mae nhw mor daer i weld eu hunain. Ond bydd hwn yno, nid yw'n mynd i unman..." 

- VANLEY BURKE

 


The Gallery is currently open Tuesday to Saturday (inclusive) between 12.30pm and 5pm.

We also continue through until 9pm and open on days that the theatre/cinema is operating for shows (including some Mondays). Please check theatre/cinema opening schedule here -> www.theatrcolwyn.co.uk