Navigation Menu+

(CY) The Photo Film Club #006

Posted on Oct 11, 2022 by in cy

Ray a Liz - Richard Billingham

Dydd Mercher 26 Hydref

7pm (drysau yn agor 6.30pm)

English

Mae’r CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn cynnal ffilm neu raglen ddogfen ffotograffiaeth bob tua 4-6 wythnos yn sinema fendigedig Theatr Colwyn.

Gwyliwch ffilm seiliedig ar ffotograffiaeth, cwrdd â ffrindiau, gwneud ffrindiau a chael eich ysbrydoli!

Mae ein chweched digwyddiad Clwb Ffilm Ffotograffiaeth NOS FERCHER, 26 HYDREF am 7pm (drysau yn agor 6.30pm) ble byddwn yn dangos y ffilm RAY A LIZ (tyst. 15).

Ooo…. ac un peth arall, nid yw’n glwb mewn gwirionedd, rydym yn hoffi’r enw … nid yw’n unigryw, nid oes yn rhaid i chi ymuno ac mae yna groeso i bawb!

 


Y Clwb Ffilm Ffotograffiaeth #006

RAY & LIZ

- cyfarwyddwr Richard Billingham*  Tyst (15)

DYDD MERCHER, 26 Hydref 2022 am 7pm (drysau 6.30pm)

 

 

*Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y cyfarwyddwr ffilm Richard Billingham yn ymuno â ni yn bersonol ar gyfer Holi ac Ateb y cyfarwyddwr/ffotograffwr ar ôl y ffilm!

 

Mae Ray a Liz yn ffilm ddrama Brydeinig 2018 gafodd ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan y ffotograffydd adnabyddus Richard Billingham.  Mae Billingham yn gwneud ei ffilm gyntaf gyda’r darlun cymhleth hwn o deulu, a ysbrydolwyd gan ei atgofion yn tyfu i fyny yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ar ddiwedd y 70au a dechrau’ 80au ac yna ei dad a’i fam ar ddiwedd y 90au. Mae Billingham yn dychwelyd at gymeriadau yn ei ffotograffiaeth cynharaf, ei dad Ray oedd yn alcoholig a’r effaith ar Richard a’i frawd iau Jason.

 

 

Roedd Billingham, ffotograffydd wedi cyhoeddi’r llyfr Ray’s Laugh (1996) yn flaenorol, gyda lluniau o’i deulu ar y pryd yn ymddangos yn y ffilm. Daeth y llyfr ffotograffiaeth yn gyffro ar draws y byd celf.  Roedd y lluniau gonest o gartref ei deulu ym mloc tŵr Birmingham yn wrthdaro anhygoel o addurnau a rhywbeth arall, mwy swreal ac anrhagweladwy.

Cafodd Ray a Liz ei argymell gan fynychwr Ffilm Ffotograffiaeth rheolaidd (*rydym hefyd yn agored i awgrymiadau ar gyfer ffilmiau yn y dyfodol) ac mae’n bleser o’r mwyaf cyhoeddi ein bod wedi gorfodi Richard i ymuno â ni yn bersonol ar gyfer holi ac ateb cyfarwyddwr ar ôl y ffilm.

Mae tocynnau fel arfer yn £5 ond  rydym yn gwneud rhywbeth bach arbennig ar gyfer y ffilm hon unwaith yn unig….

Mae ffilm Richard am ei blentyndod anodd yn tyfu i fyny gyda’i rieni camweithredol mewn fflat cyngor yn ystod cyfnod Thatcher.  Roedd pethau yn anodd bryd hynny ac mae pethau yn anodd nawr i lawer. 

Felly… Mae’r tocynnau yn rhad ac am ddim ar gyfer y ffilm hon, ond rydym ni’n gwerthfawrogi unrhyw rodd o’r rhestr isod ar gyfer Banc Bwyd Bae Colwyn wrth i chi ddod i mewn os gallwch.

Os ydych mewn sefyllfa i helpu ychydig mwy, mae yna ddewis hefyd i brynu tocyn a dod â rhoddion i’r banc bwyd.  Gwerthfawrogir unrhyw roddion yn fawr iawn.

 

Tocynnau ar gael 

 

Sicrhewch nad yw dyddiadau’r eitemau wedi dod i ben, a pheidiwch â rhoi eitemau ffres/byrhoedlog. 

Eitemau ar gyfer y Banc Bwyd

  • Tuniau Pastai cig
  • Tuniau Cyw iâr a saws
  • Tuniau peli cig
  • Tuniau stêc wedi’i stiwio
  • Tuniau tsili
  • Tuniau rafioli
  • Tuniau cyri
  • Tuniau ffa pob
  • Tuniau ffa pob a selsig
  • Tuniau llysiau
  • Tuniau tatws
  • Tuniau cawl
  • Tuniau ffrwythau
  • Tuniau pwdin
  • Pacedi tatws stwnsh
  • Pasta
  • Reis
  • Grawnfwyd
  • Te/Coffi
  • Siwgr
  • Jam/marmalêd
  • Creision
  • Bisgedi/melysion
  • Papur tŷ bach
  • Clytiau a bwyd babi