CY – Stephen Clarke – Stars, Stripes and Steam
20/09/24 – 05/11/24
Mae Efrog Newydd yn un o ddinasoedd pwysicaf y byd. Mae rhai pobl dan y gamargraff mai hi yw prifddinas yr Unol Daleithiau weithiau, ac ni ellir gwadu ei harwyddocâd fel canolbwynt pŵer diwylliannol ac economaidd America.
Yng nghanol y 1990au, aeth Stephen Clarke ar ymweliad â’r ddinas hon ddwywaith; a’r ymweliadau hynny’n para llai nag wythnos yr un. Mae’r ffotograffau a dynnodd yn ystod y cyfnodau byr hyn yn y ddinas yn cynnig cipolwg rhannol wedi’i seilio ar ei brofiad ei hun.
Mae amseriad yr arddangosfa hon yn fwriadol: ar noswyl etholiadau’r Unol Daleithiau 2024, anogir y gwylwyr i fyfyrio ar y gorffennol a bwrw amcan ynglŷn â dyfodol Unol Daleithiau America.
Wrth i’r arddangosfa ddod i ben nos Fawrth 5 Tachwedd, sef dyddiad Etholiadau’r Unol Daleithiau, rydym yn eich gadael yn fwriadol heb gyhoeddi canlyniad yr etholiad, gyda chyfeiriad America tua’r dyfodol yn ansicr.
Drwy ryw fath o gyd-ddigwyddiad, mae yna arwyddocâd i ddyddiad 5 Tachwedd yma yn y DU hefyd.
Fight Back © Stephen Clarke
Mae Stephen Clarke yn Uwch Ddarlithydd Celf a Dylunio: Astudiaethau Beirniadol a Chyd-destunol ym Mhrifysgol Caer. Astudiodd yng Ngholeg Celf Casnewydd, De Cymru (BA mewn Celfyddyd Gain, 1989) a’r Winchester School of Art, Prifysgol Southampton (MA mewn Celfyddyd Gyfoes a Theori, 1996 ac MA mewn Gwaith Print Celfyddyd Gain, 2004).
Sylfaen ei waith celf yw’r archif o ffotograffau y mae wedi bod yn eu tynnu ers 1981. Mae ganddo ddiddordeb mewn Topograffeg Newydd a ffotograffiaeth ddogfennol, yn ogystal â chyfosod ffotograffau a chollage.
Mae ei ffotograffau wedi’u cyhoeddi gan y cyhoeddwyr annibynnol, Café Royal Books, Fistful of Books, ac Out of Place Books.