Navigation Menu+

CY – The Life Of Terry

Posted on Nov 15, 2024 by in cy

10/12/24 – 01/02/25

A rŵan am rywbeth hollol wahanol …….. arddangosfa newydd o drysorau’ heb eu gweld erioed o’r blaen o archif bersonol y diweddar Terry Jones, aelod o Monty Python a mab enwocaf Bae Colwyn. 

‘Does dim angen cyflwyno Terry …. ond rhag ofn, fo oedd y Cymro yn Monty Python, y criw comedi hwnnw oedd yn enwog oherwydd i’w ffilm, ‘The Life of Brian’ gael ei gwahardd yn Aberystwyth.  Wedi’i eni ym Mae Colwyn, roedd Terry yn Gymro balch, byth a hefyd yn cyhoeddi ei Gymreictod mewn acen yn syth allan o Surrey.

Trefnwyd yr arddangosfa, o’r enw ‘The Life of Terry’  gan Paul Sampson, Curadur Oriel Colwyn, gyda’r rhan fwyaf o’r arddangosion wedi’u benthyg gan deulu Terry ac o archif Monty Python.

From the Archive of Terry Jones

Meddai Paul Sampson: “Dwi wedi bod yn lwcus iawn i gael cipolwg anhygoel ar fywyd Terry wrth guradu’r arddangosfa hon o’r llu o ffotograffau o archif y teulu – rhai teuluol, personol ac o’i yrfa. Mae wedi bod yn bleser go iawn mynd drwy’r drysorfa o luniau – llawer ohonynt erioed wedi’u gweld o’r blaen.

From the Archive of Terry Jones



”Drwy gyfuno’r ffotograffau gydag eitemau diddorol eraill o ffilmiau, rhaglenni teledu a sioeau Monty Python Terry, rydym wedi creu arddangosfa unigryw sy’n ein galluogi ni i rannu atgofion a straeon gyda chi o ‘The Life of Terry’.

From the Archive of Terry Jones

Mae teulu Terry a Monty Python yn benthyca dros 100  o ffotograffau ac eitemau eraill o’u harchifau, gyda ffocws ar ffotograffau personol Terry o’i yrfa yn ogystal â ffotograffau o’r tu ôl i’r llenni o’r ffilmiau a’r sioeau teledu.

Hefyd i’w gweld bydd tudalennau o lyfrau nodiadau Terry sy’n cynnwys geiriau gwahanol i’r gân ‘Always Look on the Bright Side of Life’, byrddau stori wedi’u creu gan Terry ei hun ar gyfer y ffilm ‘The Meaning of Life’ yn 1981 yn ogystal â phosteri gwreiddiol ac eitemau eraill cysylltiedig â’r ffilm.

From the Archive of Terry Jones

Mae hon yn arddangosfa y mae’n rhaid i ffans Monty Python a sgwennu a hiwmor Terry Jones ei gweld!


Bydd yr arddangosfa yn rhedeg o 10 Rhagfyr, 2024 i 1 Chwefror, 2025.

Bydd rhagor o fanylion am y dyddiau a’r amseroedd y bydd yr arddangosfa ar agor ar gael yma yn fuan.

Pris y tocynnau fydd £5 gydag opsiwn i gyfrannu mwy tuag at apêl cerflun Terry.


A Python On The Prom

Mae’r arddangosfa The Life of Terry yn cael ei chynnal fel rhan o’r ymgyrch A Python on the Prom.  Yn gofyn am roddion gan ffans Terry o bedwar ban byd, nod yr ymgyrch yw gosod cerflun ohono ar y promenâd yn y dref lle treuliodd flynyddoedd cynnar ei blentyndod, a hyd yma codwyd bron £100,000 o’r targed o £120,000, gyda dros 1,000 o roddion unigol

Mae’r ymgyrch yn cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy (CAT) mewn partneriaeth  â theulu Terry.  Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn 2013 i hyrwyddo, cynnal a hybu addysg a gwerthfawrogiad o’r celfyddydau ym Mwrdeistref Sirol Conwy.

Dywedodd merch Terry, Sally Jones, sy’n gweithio ar yr ymgyrch ochr yn ochr â’r Ymddiriedolaeth:  “Mae hi mor braf cael y cyfle hwn i ddangos rhai o’r trysorau o archif Dad. Ers ei golli ‘da ni wedi bod yn mynd drwy ei bapurau a’i ffotograffau ac wedi dod o hyd i ddarluniau bach, fersiynau cynnar o sgetsys Python a deunydd cwbl newydd. Mae’n hynod ddiddorol gweld pethau wedi’u croesi allan a’u sgriblo drostynt a chartwnau bras yn dod a’r sgetsys sydd mor gyfarwydd i ni yn fyw”.

Mae Oriel Colwyn wedi’i lleoli yn yr un adeilad â Theatr Colwyn, rhywle oedd yn agos iawn at galon Terry. Perfformiodd ei rieni a’i nain a’i daid yma a daeth Terry’n noddwr cyntaf un y Theatr. Roedd ein harddangosfa gyntaf yma yn Oriel Colwyn yn cynnwys llun cynnar o Terry ar draeth Bae Colwyn pan oedd fachgen bach dwy a hanner.

Terry Jones, Colwyn Bay beach, aged two and a half.

Fe wnaeth Terry a Paul gyfarfod ar sawl achlysur pan ddaeth Terry i helpu gydag ymdrechion codi arian a digwyddiadau arbennig felly mae’n addas iawn bod prif logo’r ymgyrch hon wedi’i greu o ffotograff a gymerodd Paul ar un o’r achlysuron hyn. 

Terry fyddai’r cyntaf i feddwl bod cerflun ohono’i hun yn syniad gwirion, ond yn ddistaw bach byddai wrth ei fodd bod tref ei blentyndod wir yn ei dderbyn fel Cymro. Y cynllun yw creu cerflun maint llawn o Terry i sefyll ar y Promenâd, nid ar blinth ond ar y llawr ynghanol y bobl sy’n mynd a dod, er mwyn iddyn nhw gael ysgwyd ei law neu roi braich amdano a chael sgwrs a thynnu llun. Roedd Terry bob amser yn ddyn hawddgar, agos atoch, felly ‘da ni’n meddwl y byddai o fwyaf hapus wrth ymyl y traeth,  adre’ unwaith eto.


I gyfrannu at yr ymgyrch codi arian A Python on the Prom, ewch i:

www.GoFundMe.com/terryjonesstatue

I brynu Crys T ac i gyfrannu’n uniongyrchol at y cerflun, ewch i Theatr Colwyn neu prynwch un ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod:

https://a-python-on-the-prom.teemill.com