CY – The Photo Film Club #013 – TISH
Ddyd Mawrth 27th Chwefror
7pm (drysau’n agor am 6.30pm)
Mae CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn dangos rhaglen ddogfen neu ffilm yn seiliedig ar ffotograffiaeth bob 4-6 wythnos yn fras yn sinema hynaf y DU sy’n dal i fod yn agored, sef Theatr Colwyn. Mae hefyd yn digwydd bod y theatr hynaf sy’n dal i fod yn agored yng Nghymru ac yn gartref i Oriel Colwyn.
Bydd 13eg digwyddiad Clwb Ffilm Ffotograffiaeth DDYDD MAWRTH, 27 CHWEFROR, am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) pan fyddwn yn cynnal dangosiad arbennig UN NOSON YN UNIG o’r ffilm TISH.
Ooo…. ac un peth arall, nid yw’n glwb mewn gwirionedd, rydym yn hoffi’r enw … nid yw’n glwb dethol, nid oes rhaid i chi ymuno ac mae yna groeso i bawb!
Photo Film Club #013
TISH
Dir. Paul Sng / Cert (15)
DDYDD MAWRTH, 27 CHWEFROR
7pm (drysau’n agor am 6.30pm)
Pris Tocynnau Ymlaen Llaw ar gyfer y dangosiad yw £6 (£8 ar y diwrnod)
Yr oedd ffotograffau Tish Murtha o bobl ar gyrion cymdeithas ym Mhrydain Thatcheraidd yn herio anghydraddoldeb. Er hynny ni allodd ddianc o’r tlodi a ddogfennwyd ganddi a bu farw yn 56 mlwydd oed, heb i lawer o bobl fod yn gwybod am ei gwaith. Mae TISH yn dilyn ei merch yn ailymweld â chyfnodau a delweddau allweddol ym mywyd ei mam i ganfod ei hetifeddiaeth.
Fel ffotograffydd dosbarth gweithiol o ogledd-ddwyrain Lloegr, roedd Tish yn teimlo rhwymedigaeth tuag at y bobl a’r problemau yn ei hamgylchedd lleol, a defnyddiodd ffotograffiaeth ddogfennol i amlygu a herio’r anfanteision cymdeithasol yr oedd hi ei hun wedi eu dioddef. Yn wahanol i lawer o ffotograffwyr sy’n dogfennu cymdeithas, roedd Tish yn dod o’r un strydoedd â’r bobl a oedd yn ei ffotograffau, ac mae hynny’n ychwanegu agosatrwydd teimladwy i’w delweddau du a gwyn llwm ond tyner. Fodd bynnag, er gwaethaf canmoliaeth gynnar i’w gwaith, ni allodd wneud bywoliaeth o ffotograffiaeth, ac ni allodd ddianc o’r tlodi yr oedd hi’n ei ddogfennu. Bu farw yn 56 mlwydd oed, a’i gwaith yn gymharol anhysbys.
Mae llygad ardderchog Tish, ei moeseg diwyro a’i hempathi cyson yn bresennol yn ei delweddau, ond eto, ychydig a wyddys am yr artist ei hun. Yn y ffilm ddogfen hir hon rydym yn dilyn merch Tish, Ella, wrth iddi agor archif ei mam am y tro cyntaf ar sgrin i ddatgelu trysorfa o ddelweddau, arteffactau, llythyrau a dyddiaduron nas gwelwyd o’r blaen. Mae Ella’n mynd ar y lôn i gyfarfod pobl newydd a oedd yn adnabod Tish, ac yn gofyn pam na chafodd fwy o gydnabyddiaeth yn ystod ei bywyd.
Wrth dwrio i’r gorffennol, mae Ella’n dod i delerau â’i galar ei hun o golli ei mam, ac yn ailgysylltu ag aelodau o’r teulu nad oedd wedi eu gweld ers blynyddoedd. Trwy daflu goleuni ar artist dosbarth gweithiol na dderbyniodd ddigon o gydnabyddiaeth yn ystod ei hoes, mae’r ffilm ddogfen yn cwestiynu’r gwerth a roddwyd ar bobl dosbarth gweithiol yn y gorffennol yn ogystal â’r gwerth a roddir arnynt heddiw.
“Dyma deyrnged rymus a gafaelgar i Tish Murtha, a gafodd fywyd yr un mor galed â’r bobl hynny o wahanol gyfnodau o amddifadedd ac ymyleiddio yn ei ffotograffau” (cyfieithiad) The Guardian, Peter Bradshaw
“Mae manylion yn llamu o’r ffotograffau, nid wynebau’r rhai a dynnodd eu lluniau’n unig, ond y tro ym mwg y sigarét, blwch llwch metel yn atgoffa rhywun o arogl llwch gwlyb, plastrau ar bengliniau wedi eu sgryffinio” (cyfieithiad) Eye for Film
“Cipolwg go iawn i effaith ddinistriol diweithdra a thlodi” (cyfieithiad) Screen International
“Mae ffilm ddogfen bersonol Paul Sng yn atgyfodi radical celf diflanedig, ac yn anrhydeddu ei safbwyntiau gwleidyddol treiddgar yn ogystal â’i ffotograffau” (cyfieithiad) Sight and Sound
Pris Tocynnau Ymlaen Llaw ar gyfer y dangosiad yw £6 (£8 ar y diwrnod)
Byddwn yn ceisio cadw prisiau tocynnau mor isel â phosibl fel eu bod yn fwy hygyrch. Os gallwch chi helpu ychydig, ystyriwch wneud cyfraniad ychwanegol bach i Oriel Colwyn wrth i chi dalu.
Rydym ni’n cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth Ffilm Cymru Wales ar gyfer ein dangosiadau Clwb Ffilm Ffotograffiaeth rheolaidd.