CY – Amanda Jackson – Where The Red Kite Flies
07/10/23 – 31/12/23
Wleser gennym groesawu’r ffotograffydd Amanda Jackson yn ôl I Bae Colwyn. Arddangosodd Amanda ei gwaith ‘To build a home’ yn Oriel Colwyn nôl yn 2017 ac rydym ni’n falch iawn o rannu ei gwaith newydd ‘Where the red kite flies’ efo chi.
Mae’r arddangossfa yn ddangos ar draws 2 lleoliad yn y tref, yn y cyntedd o’r adeilad Coed Pella, ac hefyd I fewn yr Oriel Colwyn.
Yn wreiddiol o Ganada, symudodd Amanda i Brydain yn 2001 ac mae hi’n frwdfrydig dros fyw’n gynaliadwy a materion amgylcheddol.
Mae cyfres ‘Where the Red Kite Flies’ yn canolbwyntio ar y bobl ifanc sydd wedi’u magu ym mhentref eco Tir y Gafel a’r ardal gyfagos yn Sir Benfro.
Mae Amanda wedi bod yn tynnu lluniau o’r pentref eco ers 2010. Rhwng 2013 a 2021 creodd ei chyfres ‘To Build A Home’a gafodd ei dangos yn Oriel Colwyn yr un pryd â’r ‘Northern eye festival’ yn 2017. Roedd yn canolbwyntio ar y bobl a oedd yn byw yn y gymuned, a’r plant bryd hynny yw’r bobl ifanc sy’n rhan o ‘Where the Red Kite Flies’ heddiw.
Gyda dull cydweithio a chwareus, mae’r ffenestr hon i fyd bach yn dathlu ffordd o fyw llai confensiynol, lle mae gan bobl gysylltiad cryf â’r tir.
Mae un o’r bobl ifanc yn disgrifio byw yn y gymuned hon fel magwraeth mewn rhyfeddod gwledig.