Cyrsiau / Gweithdai Ystafell Dywyll
Mae ein hystafell dywyll ar gau ar hyn o bryd wrth i ni aildrefnu a diweddaru’r gofod. Gwiriwch eto’n fuan i gael rhagor o newyddion, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, neu gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Bydd ein gweithdy Ystafell Dywyll Du a Gwyn i ddechreuwyr sy’n hynod boblogaidd, gyda’r nod o’ch cyflwyno i weithio gyda ffilm 35mm a defnyddio ystafell dywyll, yn un o’r cyrsiau cyntaf y byddwn yn ei gynnig pan fydd yr ystafell dywyll yn barod.
Bydd y cwrs yn gyflwyniad i broses ffotograffiaeth analog gan weithio gyda ffilm 35mm a’r ystafell dywyll, o ddadleniad a chyfansoddiad i brosesu eich ffilm, argraffu taflenni lluniau a chwyddo lluniau, a bydd yn datblygu’r sgiliau sy’n ofynnol er mwyn defnyddio ystafell dywyll.
DYDDIADAU NEWYDD I DDOD YN FUAN
Llogi’r ystafell dywyll
Fel yr uchod, mae ein hystafell dywyll ar gau ar hyn o bryd wrth i ni aildrefnu a diweddaru’r gofod. Gwiriwch yma o bryd i’w gilydd i gael rhagor o newyddion, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, neu gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf.