Polisi Preifatrwydd

Mae Oriel Colwyn yn ymroddedig i ddiogelu eich preifatrwydd.

Ar 25 Mai 2018 daeth rheoliad newydd gan yr UE i rym, sef y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Fe’i cynlluniwyd i ddiweddaru Cyfarwyddeb Diogelu Data a oedd yn bodoli cynt.

Beth fydd hyn yn ei olygu i chi?

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi er mwyn darparu newyddion, a’r wybodaeth ddiweddaraf am arddangosfeydd, digwyddiadau a chyfleoedd i chi.

Gellwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio’r ddolen ddatdanysgrifio ar waelod unrhyw e-bost.

Pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi?

Yr ydym yn casglu eich enw a’ch cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn tanysgrifio i’n rhestr bostio neu’n cysylltu â ni.

Yr ydym yn casglu mwy o wybodaeth pan fyddwch yn cwblhau arolygon cwsmeriaid yn wirfoddol, yn rhoi adborth ac yn cymryd rhan mewn cystadlaethau.

Pan fydd rhywun yn ymweld â gwefan www.orielcolwyn.org, defnyddiwn wasanaethau trydydd parti Google Analytics a WordPress i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Gwnawn hyn i ganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr i wahanol rannau’r wefan. Prosesir y wybodaeth hon mewn modd na ellir adnabod unrhyw un. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymgais i ganfod pwy sy’n ymweld â’n gwefan, nac yn caniatáu i’r gwasanaethau hyn wneud hynny chwaith.

Cwcis

Mae rhai rhannau o’r wefan yn defnyddio “cwcis” i olrhain eich ymweliad ac i’ch cynorthwyo i we-lywio rhwng adrannau. Ffeil ddata fechan yw cwci y mae rhai gwefannau yn ei storio ar yriant caled eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â’r gwefannau hynny. Gall cwcis gynnwys gwybodaeth fel eich manylion adnabod defnyddiwr a’r tudalennau’r ydych wedi ymweld â hwy. Yr unig wybodaeth bersonol y mae cwci yn ei chynnwys yw gwybodaeth yr ydych wedi ei rhoi eich hun.

Defnyddiwn gwcis ar y wefan i’n galluogi i ddarparu cynnwys sy’n benodol i’ch diddordebau chi, mae’n rhoi syniad i ni o ba rannau o’r wefan yr ydych yn ymweld â hwy, ac yn ein galluogi i’ch adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i’r wefan. Nid yw darllen cwcis yn rhoi mynediad i ni at ddata eraill ar yriant caled eich cyfrifiadur, ac ni fydd ein gwefan yn darllen cwcis a grëwyd gan wefannau eraill yr ydych wedi ymweld â hwy.

Gellwch wrthod derbyn cwcis drwy alluogi’r gosodiad ar eich porwr sy’n caniatáu i chi wrthod gosod cwcis. Fodd bynnag, os ydych yn dewis y gosodiad hwn, efallai na fyddwch yn gallu cael mynediad at rai rhannau o’r wefan. Oni bai eich bod wedi addasu gosodiadau eich porwr fel ei fod yn gwrthod cwcis, bydd ein system yn rhoi cwcis pan fyddwch yn mynd i’r wefan.

Sylwer y gall darparwyr cynnwys trydydd parti ddefnyddio cwcis hefyd, ac nid oes gennym reolaeth dros hynny.

Cynnwys wedi ei fewnosod o wefannau eraill

Mae’n bosibl bod cynnwys wedi ei fewnosod mewn erthyglau ar y safle hwn (e.e. fideos, delweddau, erthyglau, ac ati). Mae cynnwys wedi ei fewnosod o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr un ffordd yn union â phe bai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall.

Gall y gwefannau hyn gasglu data amdanoch, defnyddio cwcis, gosod tracio trydydd parti ychwanegol, a monitro sut ydych yn rhyngweithio â’r cynnwys hwnnw sydd wedi ei fewnosod, gan gynnwys olrhain eich rhyngweithio â’r cynnwys sydd wedi ei fewnosod os oes gennych gyfrif a’ch bod wedi mewngofnodi i’r wefan honno.

Pan fo’n gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill, mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol i’r wefan hon yn unig, felly pan fyddwch yn dilyn dolenni i wefannau eraill dylech ddarllen polisi preifatrwydd y gwefannau hynny.

Sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth amdanoch chi?

Yr ydym yn casglu gwybodaeth amdanoch er mwyn anfon e-byst atoch am arddangosfeydd, digwyddiadau a rhaglenni y credwn y byddent o ddiddordeb i chi. Oni bai eu bod wedi eu datgelu fel arall, ni fyddem yn rhannu manylion eich gwybodaeth gydag unrhyw un y tu allan i’r sefydliad heb eich caniatâd.

Defnyddiwn ddarparwr trydydd parti, MailChimp, i ddosbarthu ein newyddlen. Yr ydym yn casglu ystadegau ynglŷn ag agor e-byst a chlicio drwy ddefnyddio technolegau safonol y diwydiant i’n cynorthwyo i fonitro a gwella ein e-newyddlen. Gweler hysbysiad preifatrwydd MailChimp am fwy o wybodaeth. Gellwch ddatdanysgrifio i dderbyn gohebiaeth gyffredinol ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy glicio ar y ddolen ddatdanysgrifio ar waelod unrhyw un o’n e-byst.

Cadw

Ni fyddwn yn cadw gwybodaeth bersonol yn hwy nag sydd yn rhaid er mwyn cyflawni dibenion eu prosesu, gan gynnwys diogelwch ein gwaith prosesu’n cydymffurfio â rhwymedigaethau rheoleiddio (e.e. telerau archwilio, cyfrifeg, a chadw statudol), ymdrin ag anghydfod a rhaglennu.

Marchnata

Hoffem anfon gwybodaeth atoch ynglŷn ag arddangosfeydd, digwyddiadau gennym ni a sefydliadau cysylltiedig eraill, a allai fod o ddiddordeb i chi. Os ydych wedi rhoi caniatâd i dderbyn deunydd marchnata, gellwch ddewis i beidio â’i dderbyn yn ddiweddarach. Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i’n hatal rhag cysylltu â chi at ddibenion marchnata. 

Mynediad at eich Gwybodaeth a Chywiro

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Os hoffech gopi o’ch holl wybodaeth bersonol, neu rywfaint ohoni, anfonwch e-bost neu ysgrifennwch atom i’r cyfeiriad canlynol. Efallai y codir ffi fechan am y gwasanaeth hwn. Yr ydym am wneud yn siŵr bod eich gwybodaeth bersonol yn gywir ac yn gyfredol. Gellwch ofyn i ni gywiro neu gael gwared â gwybodaeth sy’n anghywir.

Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd neu wybodaeth sydd gennym amdanoch:

E-bost: curator@orielcolwyn.org

Ysgrifennwch atom: Oriel Colwyn, i fyny’r grisiau yn Theatr Colwyn, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, Conwy. LL29 7RU.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp