Y Clwb Ffilm Ffotograffiaeth #006

26 Hydref, 2022, 12am

Date(s)
26/10/2022
Disgrifiad
Ray-and-Liz-Landscape

the-photo-film-club-006-1

Mae’r CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn cynnal ffilm neu raglen ddogfen ffotograffiaeth bob tua 4-6 wythnos yn sinema fendigedig Theatr Colwyn.

Gwyliwch ffilm seiliedig ar ffotograffiaeth, cwrdd â ffrindiau, gwneud ffrindiau a chael eich ysbrydoli!

Mae ein chweched digwyddiad Clwb Ffilm Ffotograffiaeth NOS FERCHER, 26 HYDREF am 7pm (drysau yn agor 6.30pm) ble byddwn yn dangos y ffilm RAY A LIZ (tyst. 15).

Ooo…. ac un peth arall, nid yw’n glwb mewn gwirionedd, rydym yn hoffi’r enw … nid yw’n unigryw, nid oes yn rhaid i chi ymuno ac mae yna groeso i bawb!


RAY & LIZ

- cyfarwyddwr Richard Billingham*  Tyst (15)

DYDD MERCHER, 26 Hydref 2022 am 7pm (drysau 6.30pm)

Ray-and-Liz-Landscape

*Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y cyfarwyddwr ffilm Richard Billingham yn ymuno â ni yn bersonol ar gyfer Holi ac Ateb y cyfarwyddwr/ffotograffwr ar ôl y ffilm!

Mae Ray a Liz yn ffilm ddrama Brydeinig 2018 gafodd ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan y ffotograffydd adnabyddus Richard Billingham.  Mae Billingham yn gwneud ei ffilm gyntaf gyda’r darlun cymhleth hwn o deulu, a ysbrydolwyd gan ei atgofion yn tyfu i fyny yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ar ddiwedd y 70au a dechrau’ 80au ac yna ei dad a’i fam ar ddiwedd y 90au. Mae Billingham yn dychwelyd at gymeriadau yn ei ffotograffiaeth cynharaf, ei dad Ray oedd yn alcoholig a’r effaith ar Richard a’i frawd iau Jason.

Roedd Billingham, ffotograffydd wedi cyhoeddi’r llyfr Ray’s Laugh (1996) yn flaenorol, gyda lluniau o’i deulu ar y pryd yn ymddangos yn y ffilm. Daeth y llyfr ffotograffiaeth yn gyffro ar draws y byd celf.  Roedd y lluniau gonest o gartref ei deulu ym mloc tŵr Birmingham yn wrthdaro anhygoel o addurnau a rhywbeth arall, mwy swreal ac anrhagweladwy.

Cafodd Ray a Liz ei argymell gan fynychwr Ffilm Ffotograffiaeth rheolaidd (*rydym hefyd yn agored i awgrymiadau ar gyfer ffilmiau yn y dyfodol) ac mae’n bleser o’r mwyaf cyhoeddi ein bod wedi gorfodi Richard i ymuno â ni yn bersonol ar gyfer holi ac ateb cyfarwyddwr ar ôl y ffilm.

Mae tocynnau fel arfer yn £5 ond  rydym yn gwneud rhywbeth bach arbennig ar gyfer y ffilm hon unwaith yn unig….

Film-Club-Footer-web

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp