David Meadows

Northern Eye Photography Festival 2023

7 Hydref, 2023 - 8 Hydref, 2023

Date(s)
07 - 08/10/2023
Cyswllt
Northern Eye Photography Festival 2023
Disgrifiad
cover

Mae Daniel Meadows, ffotograffydd ac adroddwr stori digidol yn arloeswr yr ugeinfed ganrif o arfer dogfennaeth Brydeinig.  Mae ei luniau a recordiau sain, a wnaed dros bron i hanner can mlynedd, yn cynnwys bywyd unigryw bob dydd yn Lloegr.  Gan herio’r sefyllfa sydd ohoni mae bob amser wedi cydweithio mewn ffordd sensitif, addfwyn a pharchus.

Yn hynod annibynnol o’r dechrau, roedd Meadows wedi dyfeisio ei ffordd ei hun o weithio: cynnal stiwdio portreadau am ddim yn Moss Side (1972), yna teithio 10,000 o filltiroedd yn ei fws dau lawr wedi’i drosi, yr Omnibws Ffotograffiaeth Am Ddim (1973-74) i greu portread cenedlaethol, prosiect y dychwelodd ato chwarter canrif yn ddiweddarach.   Fel mabwysiadwr adnoddau digidol cynnar roedd ymhlith y cyntaf i gyfuno sain gyda ffotograffiaeth i wneud straeon digidol.   Mae wedi dychwelyd at y rhai mae wedi tynnu eu lluniau, gwrando ar sut mae pethau a sut mae pethau wedi newid. 

1
Daniel Meadows and his Bus 1973. © the estate of Andrew Sproxton

Cafodd ei eni yn Swydd Gaerloyw (1952), astudiodd yng Ngholeg Polytechnig Manceinion 1970-73 ble roedd yno gyda Brian Griffin a Martin Parr. Yn ddiweddarach dysgodd gwrs ffotograffiaeth ddogfennol David Hurn yng Nghasnewydd (1983-94); hefyd ffotonewyddiaduraeth (1994-2001) ac adrodd straeon digidol (2000-2012) yn Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yng Nghaerdydd ble cwblhaodd ei PhD (2005). Yn y 1990au roedd yn cynnal gweithdai ffotonewyddiaduraeth mewn democratiaethau dwyrain Ewrop. Ar ôl 2000 teithiodd sawl gwaith i Awstralia a’r UDA yn darlithio. 

Mae gwaith Meadows, wnaeth arwain y ffordd i sawl un sydd bellach yn gweithio mewn cyfryngau cyfranogol wedi’i arddangos yn eang. Mae sioeau unigol yn cynnwys yr ICA Llundain (1975), Gwaith Camera (1978), Oriel y Ffotograffydd (1987) a thaith ôl-weithredol o’r Amgueddfa Gyfryngau Genedlaethol (2011). Mae sioeau grŵp yn cynnwys Tate Prydain (2007) a Thaith Oriel Hayward (2008).

Mae ei waith yn cael ei gadw yn y casgliadau ffotograffiaeth pwysicaf a chafodd ei archif ei gaffael gan Lyfrgelloedd Bodleian, Prifysgol Rhydychen, ble dathlwyd yn 2019 gydag arddangosfa a llyfr, Now and Then: England 1970-2015.

2

Mae 22 Medi 2023 yn nodi 50 mlynedd ers dechrau taith fws Meadows, digwyddiad fydd yn cael ei ddathlu gydag arddangosfa yng Nghanolfan Ffotograffiaeth Brydeinig, Llundain (yn agor ar 28 Medi), llyfr newydd Gwasg Bluecoat, tri chyfrwng newydd o Lyfrau Cafe Royal (CRB) a siaradwr gwadd ar gyfer Gŵyl Northern Eye eleni. 

www.danielmeadows.co.uk

3
Group portrait from the Free Photographic Omnibus, John Payne, aged 11, with pigeon Chequer and friends the White brothers, Michael and Kalvin, Portsmouth. April 1974 ©Daniel Meadows

4
Double portrait from the Free Photographic Omnibus, Brighton, Sussex. May 1974 ©Daniel Meadows

5
Double portrait from the Free Photographic Omnibus, David Leigh and Tommy Kemp, Southampton.  May 1974 ©Daniel Meadows

6
Bowie fan, Weymouth, Dorset. July 1974 ©Daniel Meadows

7
Tanger Troupe, Circus Hoffman, Plymouth. August 1974 ©Daniel Meadows

8
Group portrait from the Free Photographic Omnibus, Hulme, Manchester.  February 1974 ©Daniel Meadows

9
Now and Then portrait from the Free Photographic Omnibus, Mother and daughter: left, Karen Cubin; right, Barbara Taylor, Barrow-in-Furness, Cumbria. 1974 and 1995 ©Daniel Meadows

10
Now and Then portrait from the Free Photographic Omnibus, Florence Alma Snoad, Southampton. 1974 and 1999 ©Daniel Meadows

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp