Ddydd Iau 7 Gorffennaf byddwn yn cynnal digwyddiad arbennig unwaith yn unig i ddathlu’r ffaith bod arddangosaf Ffotograffydd Dogfennol y Flwyddyn 2021 y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol yn Oriel Colwyn yn dod i ben. Rydym wedi gwahodd cyfranogwyr o’r prosiect EDGELANDS i gyflwyno eu gwaith, a siarad am yr heriau a oedd yn eu hwynebu, sut y gwnaethant eu goresgyn a beth wnaethant elwa o’r prosiect.

Mae yno demtasiwn i dynnu lluniau o’r pethau hardd, er hynny, rydym wedi ein hamgylchynu gan bethau cyffredin sy’n cael eu hanghofio’n aml. Beth sy’n ein hatal ni rhag tynnu lluniau o’r pethau dinod? Ein canfyddiad o estheteg a harddwch, nad yw’r cyffredin yn aml yn cydymffurfio ag ef? Neu’r diffyg diddordeb llwyr yn y pwnc nad ydym yn ystyried ei fod yn werth i ni dynnu llun ohono?

©Daniel Muckle Jones
Mae tiroedd ar y ffin neu ardaloedd sydd ar gyrion y dref yn diroedd yn y canol, sy’n ffurfio parthau trosglwyddo yn ogystal â ffiniau. Mae’r tiroedd hyn ar y cyrion yn cyflawni swyddogaethau hanfodol i’n cymdeithas, ond efallai na fydd eu hymddangosiad yn apelio i’n canfyddiad traddodiadol o harddwch, ac felly’n anaml iawn y tynnir lluniau ohonynt.
Yn y gwaith prosiect hwn bu i 17 o ffotograffwyr archwilio tiroedd ar y ffin yng Ngogledd Cymru a rhannu eu profiad o, a’u barn ar, y tiroedd hyn sydd ar y ffin.
Eu bwriad oedd cyflawni pedwar nod:
- tynnu llun o’r hyn sy’n cael ei anghofio’n aml ar gyrion ardaloedd trefol,
- tynnu llun yn y cyffiniau lle’r ydym yn byw ac yn gweithio, ac felly’n cadw ôl-troed carbon y prosiect lluniau hwn mor isel â phosibl,
- gwneud y prosiect hwn yn gyfrif unigryw a phersonol o’r hyn yr ydym yn ei weld a sut ydym yn darlunio ein hymateb i’r tiroedd ar y cyrion, a
- tywys ac annog ffotograffwyr o wahanol gefndiroedd ffotograffig ac sydd â gwahanol lefelau sgiliau i fentro allan o’u parth cysur, ymgysylltu â’i gilydd ac adeiladu cymuned, meithrin meddylfryd twf ac ymestyn ein ffiniau personol.

©John Staten
Bu i’r gwaith hwn arwain at lyfr lluniau hunan-gyhoeddedig, gellir dod o hyd i’r argraffiad ar-lein yma:
https://issuu.com/royalphotographicsociety/docs/frontiers_north_wales
Rydym yn falch o gynnal y digwyddiad hwn fel dilyniant i’r llyfr a gyhoeddwyd, i ganiatáu mewnwelediad i’r ffotograffwyr a’u gwaith.

©Robert Cain
Mae’r Gororau/Tiroedd ar y Ffin yn gydweithrediad rhwng y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol a Chymdeithas Ffotograffig Gogledd Cymru.