Browser does not support script.
Various
13 Chwefror, 2024 - 15 Chwefror, 2024
13/02/2024 00:00:00
Mae BLWCH GOLAU yn brosiect gweithdy ffotograffiaeth RHAD AC AM DDIM i bobl ifanc rhwng 10 ac 16 oed.
Mae’n gyfle i weithio ar brosiectau ffotograffiaeth hwyliog a dysgu sgiliau newydd gyda churadur a ffotograffydd Oriel Colwyn, Paul Sampson a’i gynorthwyydd, Emily Hulme
Bydd ein 6 sesiwn nesaf yn cael eu cynnal dros HANNER TYMOR Chwefror yn Theatr Colwyn/Oriel Colwyn, fore a phrynhawn dydd Mawrth 13 Chwefror, dydd Mercher 14 Chwefror a dydd Iau, 15 Chwefror.
Os hoffech chi fanteisio’n llawn ar y sesiynau ffotograffiaeth hwyliog hyn, gallwch archebu lle ym mhob un o’r chwe sesiwn, neu mae croeso i chi ddewis un neu ddwy sesiwn, mae fyny i chi!
Bydd y gweithdai’n cynnwys y broses Syanoteip hanesyddol, paentio gyda golau, sesiynau portreadau stiwdio a nifer o weithgareddau gwych eraill.
Bydd pob gweithdy’n para 2 awr (10.30am – 12.30pm neu 1.30pm – 3.30pm) ac rydym yn ceisio cyfyngu pob sesiwn i 8 o bobl
Rydym yn cynnig y gweithdai hyn yn RHAD AC AM DDIM er mwyn galluogi mynediad i bawb, ond mae ein cyllideb yn fychan iawn, felly croesawir unrhyw roddion i’n helpu i ddatblygu ein gwaith a’n gweithgareddau, p’un a yw hynny ar ffurf offer ffotograffig neu arian.
Hoffwn GYFRANNAU at Oriel Colwyn
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.