Browser does not support script.
Ffilm
31 Mai, 2013, 7pm
31/05/2013 19:00:00
Gyda chyflwyniad gan James Clifford Kent
Mae’r tocynnau AM DDIM ond mae’n rhaid eu harchebu a’u casglu o Theatr Colwyn (www.theatrcolwyn.co.uk) (01492 577888/872000 )
Gwnaed MEMORIES OF UNDERDEVELOPMENT ar ôl Chwyldro Castro ac yn ôl nifer, dyma’r ffilm oriau erioed i gael ei gwneud yng Nghiwba. Mae’r prif gymeriad, Sergio yn aros yng Nghiwba tra bo’i deulu yn ffoi i’r UDA yn sgil goresgyniad Bae’r Moch. Er bod y wladwriaeth wedi cymryd rheolaeth o’i fusnes creu dodrefn, mae ganddo incwm yn dod mewn gan ei fod yn landlord ar nifer o fflatiau. O ffenestri’r fflatiau yma, gyda thelesgop, neu o strydoedd Havana, y mae o’n treulio ei amser yn gwylio pobl, yn sylwi ar y newidiadau mewn pobl a chymdeithas a ddaw yn sgil y Chwyldro. “Those in favour cherish it as a landmark that avoids almost all of the radical cliches.” THE GUARDIAN
Adolygiad IMDB
Mae’r ffilm yma o Ciwba yn cael ei dangos i gyd-fynd â lansiad arddangosfa ffotograffig newydd gan James Clifford Kent– MEMORIES OF A LOST SHARK - yn Oriel Colwyn (wedi’i leoli ar lawr uchaf Theatr Colwyn) gyda thestun gan Edmundo Desnoes (a ysgrifennodd y nofel y mae’r ffilm wedi’i seilio arni hefyd).
Cyfres newydd o 18 o ffotograffau du a gwyn a thestun ydi MEMORIES OF A LOST SHARK – dull o ymgysylltu sydd yn galluogi i luniau fod mod anwadal â hanes Ciwba.
Ffotograffau: Mae James Clifford Kent (Llundain, Lloegr, 1983) yn ffotograffydd dogfen annibynnol a darlithydd diwylliant gweledol. Wedi’i eni yn Llundain ond â chysylltiadau â Chymru, mae ei hunaniaeth Llundain a Chymreig yn dylanwadu ar ei waith ffotograffig i’r un graddau.
Testun: Mae Edmundo Desnoes (Havana, Ciwba, 1930) yn awdur ac adolygydd enwog o Giwba. Mae wedi cyhoeddi’n eang ar y celfyddydau ac ef yw awdur nofel Memorias del subdesarrollo (Memories of Underdevelopment). Cafodd ei addasu mewn i un o’r ffilmiau Lladin Americanaidd mwyaf dylanwadol erioed gan y gwneuthurwr ffilmiau o Giwba Tomás Gutiérrez Alea yn 1968. Mae wedi byw yn ninas Efrog Newydd ers 1979.
Mae Oriel Colwyn yn falch o gefnogi James ac Edmundo drwy ddangos y ffilm yma a’r gwaith cyffrous.
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.