Browser does not support script.
Northern Eye Photography Festival 2017
14 Hydref, 2017 - 15 Hydref, 2017
Mae Amanda Jackson yn ffotograffydd ar ei liwt ei hun, wedi’i lleoli yn Malvern, Swydd Gaerwrangon, ond mae hi hefyd yn treulio llawer o’i hamser yn byw mewn carafán retro fach yn Sir Benfro, pan fydd yn gweithio ar y gyfres ‘To Build a Home’.
Mae’n frwd dros fyw yn gynaliadwy a materion amgylcheddol, ac mae gan ei gwaith ffotograffiaeth bwyslais cryf ar hyn. Yn 2014, fe’i comisiynwyd gan ‘FotoDocument’ a ‘Photoworks’ i greu cyfres ffotograffig yn seiliedig ar egwyddor One Planet Living o “Ddeunyddiau Cynaliadwy”.
Yn 2015, cyrhaeddodd Amanda’r rhestr fer ar gyfer Ffotograffydd Amgylcheddol y Flwyddyn.
Mae ei gwaith wedi bod mewn sawl cyhoeddiad yn cynnwys: The Guardian; The Observer; The Independent; cylchgrawn Self Build and Design; Cylchgrawn Blogosphere; Marie Claire, Photoworks Annual (Rhifyn 21) ac One Planet Life.
Mae hi wedi cael arddangosiadau yn ddiweddar yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Oriel Mwldan, Gŵyl Ffotograffiaeth Reclaim yn Birmingham a Brighton Biennial.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n dal cyfres o ffotograffau o’r gyfres ‘To Build A Home’ yn eu harchifau. Mae’r lluniau hyn yn dangos bywyd yn Eco Bentref Lammas yn Sir Benfro.
Bydd Amanda’n siarad gyda Jonathan Goldberg ac yn myfyrio ynghylch y tebygolrwydd â’i brosiect ‘The Runway Stops Here’ yn seiliedig ar Eco-bentref Grow Heathrow yn y gofod arfaethedig ar gyfer 3edd rhedfa Maes Awyr Heathrow.
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.