Bridget Coaker

Nothern Eye Photography Festival 2017

14 Hydref, 2017 - 15 Hydref, 2017

Date(s)
14 - 15/10/2017
Cyswllt
Nothern Eye Photography Festival 2017
Disgrifiad
Image 1

Mae Bridget Coaker yn olygydd lluniau wedi’i lleoli yn Llundain, lle mae’n gweithio i’r Guardian a hefyd yn Gyfarwyddwr Ffotograffiaeth ar gyfer yr oriel ffotograffau cyfoes, Troika Editions, y sefydlodd ar y cyd yn 2008 a Troika Photos, asiantaeth ffotograffiaeth a ddechreuodd yn 2000 gyda’r ffotograffydd Michael Walter.

Mae hi wedi bod yn guradur nifer o arddangosiadau, yn cynnwys Residual Traces yn Photofusion, Llundain, ac yn 2009 roedd yn Gyfarwyddwr Gŵyl Ffotograffiaeth Henffordd, lle cyflwynodd ffotograffiaeth gan ffotograffwyr o Ewrop, gan weithio gyda’r ddelwedd o’r plentyn yn “Seen But Not Heard” ac yn guradur sioe ôl-weithredol y ffotonewyddiadurwr a'r gwneuthurwr ffilmiau John Bulmer.

Mae Bridget yn ddarlithydd sy’n ymweld â sawl Prifysgol yn y DU, yn cynnwys Prifysgol y Celfyddydau Creadigol, Prifysgol Derby, Prifysgol Portsmouth, Nottingham Trent, Coleg Celfyddydau Plymouth, Prifysgol Middlesex a Phrifysgol Westminster.

Yn 2011, ymunodd â phwyllgor llywio Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol FORMAT, a chyfranogodd yn Symposiwm Rhwydwaith Ffotograffiaeth Gogledd Ddwyrain Lloegr, Photography Publishing and the Future of the Photo Book. 

Yn 2015, cafodd Bridget ei gwneud yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Ffotograffiaeth, y DU.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp