Ym mis Ebrill 2021, enillodd Craig Easton y teitl clodfawr Ffotograffydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Ffotograffiaeth y Byd SONY, mae ei waith wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y traddodiad dogfennol. Prosiectau hirdymor yw ei waith ffotograffiaeth sy'n archwilio materion cysylltiedig â pholisi cymdeithasol, hunaniaeth ac ymdeimlad o le.
Mae Craig yn dweud straeon drwy gymysgedd o ymdriniaethau portread, tirlun a chroniclo, yn aml yn gweithio ar y cyd ag eraill i gynnwys geiriau, lluniau a sain mewn ymarfer seiliedig ar ymchwil sy'n gweu naratif rhwng profiad cyfoes a hanes.
Caiff ffotograffau Easton eu cyhoeddi a’u harddangos ar draws y byd ac maent yn rhan o gasgliadau preifat a chasgliadau archifau amgueddfeydd yn rhyngwladol.
Fel crëwr y prosiect SIXTEEN mawr ei glod, gwahoddodd Easton dîm o 16 ffotograffydd cyfoes i weithio gyda bron 200 o bobl ifanc 16 oed o bob rhan o’r DU a arweiniodd at 20 o arddangosfeydd (yn cynnwys arddangosfa ymylol ddiwethaf y Northern Eye) a welwyd gan gynulleidfa o tua 350,000 drwy gydol 2019 a dechrau 2020.
Mae arddangosfa o’r gwaith hwnnw’n dal ar daith ledled y DU ac yn yr Unol Daleithiau.
Mae gwaith diweddaraf Easton, BANK TOP, edrych ar gynrychioliad a cham-gynrychioliad cymunedau gogledd Lloegr gan y cyfryngau cymdeithasol. Drwy ganolbwyntio ar un gymuned glos yn Blackburn, Swydd Gaerhirfryn – a ddisgrifiwyd gan raglen Panorama y BBC fel ‘tref fwyaf wahanedig Prydain’, mae'n cwestiynu'r naratif gyffredin o ryfeloedd diwylliannol a gwahaniad.
Mae’r gwaith – i gyd wedi’i wneud ar ffilm analog fformat mawr 10x8 – yn cwestiynu’r syniad ymrannol o wahaniad diwylliannol, ethnig a chymdeithasol mewn tirlun gwleidyddol llawn tensiwn ac yn edrych ar etifeddiaeth polisi tramor cyfoes a threfedigaethol, mewnfudo a chanlyniadau andwyol dad-ddiwydiannu ac esgeuluso gogledd Lloegr.
Mae THATCHER’S CHILDREN yn gyfres ddogfennol ffurf hir sy’n dal i fynd yn ei blaen yn archwilio sut y mae polisïau cymdeithasol llywodraethau olynol wedi effeithio ar, ac wedi cael eu profi gan un teulu estynedig dros dri degawd ac yn edrych ar effaith tlodi cronig o un genhedlaeth i’r llall. Wedi’i gyhoeddi gyntaf gan The Independent yn y DU a Liberation ym Mharis yn ’92, dangoswyd y prosiect ffurf hir am y tro cyntaf yn The Guardian Weekend ym mis Tachwedd 2020. Mewn cydweithrediad â'r ysgrifennwr Jack Shenker, rydym yn paratoi llyfr ac arddangosfeydd yn 2021.
Mae detholiad o’i wobrau’n cynnwys:
-
Ffotograffydd y Flwyddyn: Gwobrau Ffotograffiaeth y Byd Sony 2021 .
-
Gwobr Ffotograffiaeth Clwb Pêl-droed Barcelona 2017.
-
Gwobrau Ffotograffiaeth y Byd Sony 2017.
-
Enillydd Gwobr Portffolio Ffotograffydd Teithio’r Flwyddyn 2016/17
-
Enillydd hollgynhwysfawr, Ffotograffydd Teithio’r Byd y Flwyddyn 2012/13.
-
Gwobrau Cymdeithas y Ffotograffwyr 2012/2016/2017
-
Enillydd, Ffotograffydd Teithio’r Flwyddyn, categori ‘Homeland' 2009.
-
Dau Anrhydedd gyda Chlod a phedwar Canmoliaeth, Gwobrau Lliw Rhyngwladol 2014/2016.
-
Oriel Portreadau Genedlaethol, Llundain, Gwobr Taylor Wessing 2017.
www.craigeaston.com






