Browser does not support script.
Northern Eye Photography Festival 2019
12 Hydref, 2019 - 13 Hydref, 2019
12/10/2019 00:00:00
Roedd John Bulmer yn un o arloeswyr ffotograffiaeth lliw'r 1960au cynnar.
Wedi’i fagu yn Swydd Henffordd, dechreuodd dynnu ffotograffau i bortreadu straeon am Gaergrawnt ar gyfer Queen Magazine, Daily Express a Life Magazine.
Cynigwyd swydd iddo ar y Daily Express, y papur mwyaf blaenllaw o ran ffotograffiaeth yn y DU ar y pryd gydag aseiniadau mewn cysylltiad â Paris Match.
Yn fuan iawn dechreuodd John dynnu lluniau ar gyfer Town Magazine, cylchgrawn ag enw da am ffotograffiaeth o safon, lle daeth i gysylltiad â mawrion fel Terrence Donovan, David Bailey a Don McCullin.
Yn 1962 torrodd y Sunday Times dir newydd ym myd papurau newydd pan argraffodd y cyntaf o’r atodiadau lliw (gyda phob papur arall ymhen amser yn gwneud yr un peth). Rhannodd Bulmer glawr y rhifyn cyntaf gyda Bailey a chyn bo hir roedd ganddo gytundeb i dynnu lluniau ar gyfer 60 o dudalennau bob blwyddyn gan deithio i bron 100 o wledydd i’w tynnu, yn gynnwys aseiniadau yn Ne America, Affrica, New Guinea ac Indonesia.
Cafodd ei gydnabod ar unwaith fel un o arloeswyr ffotograffiaeth lliw a daeth yn un o gyfranwyr mwyaf toreithiog y cylchgrawn.
Wedi’i gydnabod yn un o gofnodwyr mwyaf deheuig y dirwedd ddinesig daleithiol a diwydiannol, mae John yn adnabyddus am ei straeon ar Nelson, Swydd Gaerhirfryn, yr Ardal Ddu a ‘ The North is dead’.
Mae ei waith wedi’i enwebu am wobrau niferus gan y Design and Art Directors Club ac mae ei luniau wedi’u harddangos yn Oriel Celf Fodern Efrog Newydd, Galeri’r Ffotograffwyr yn Llundain a’r Amgueddfa Ffotograffiaeth Genedlaethol yn Bradford.
www.johnbulmer.co.uk
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.