Browser does not support script.
Northern Eye Photography Festival 2019
12 Hydref, 2019 - 13 Hydref, 2019
12/10/2019 00:00:00
Mae gan Tessa ddiddordeb penodol mewn tirweddau gwahanol a sut y maent yn cael eu siapio gan weithgaredd dynol. Gan weithio’n agos â chymunedau ac unigolion mae hi wedi treulio’r 25 mlynedd ddiwethaf fel ffotograffydd.
Wedi’i chyfareddu gan gymhlethwch bywyd gwledig, mae Tessa wedi cydweithio â ffermwyr mynyddoedd Gogledd Swydd Efrog, helwyr adar pâl Gwlad yr Iâ, nofwyr iâ'r Ffindir a bugeiliaid crwydrol Romania ar gyfer cyhoeddiadau ac arddangosiadau ledled y byd.
Mae’r prosiect Home Work (a gyhoeddwyd gan Dewi Lewis) yn archwilio bywydau gweithwyr cartref benywaidd yn y maestrefi a’r pentrefi yn ac o amgylch Hanoi, Fietnam yn wyneb trefoli cynyddol.
Rhwng 2012 a 2016 roedd Tessa’n byw yn Laos, yn gweithio ar ei phrosiect hirdymor The Corridor of Opportunity a gefnogwyd gan Gyngor y Celfyddydau Lloegr, ar yr un pryd ag ymgymryd a chomisiynau golygyddol ac NGO ledled ardal De-ddwyrain Asia.
Cafodd y gyfres The Women of UCT6, sy’n dangos tîm o ferched lleol, a hyfforddwyd gan y Mines Advisory Group o Fanceinion, yn clirio arfau ffrwydrol yn Leos, ei chyhoeddi yn y Financial Times Magazine.
www.tessabunney.co.uk
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.