Aneesa Dawoojee

Northern Eye Festival 2024

23 Tachwedd, 2024 - 24 Tachwedd, 2024

Date(s)
23 - 24/11/2024
Cyswllt
Northern Eye Festival 2024
Disgrifiad
1

Mae Aneesa Dawoojee yn ffotograffydd portreadau a dogfennu cymdeithasol o Dde Llundain, ac wedi ennill sawl gwobr.  Mae ei ffotograffau’n chwalu ystrydebau, yn dathlu hanfod cymuned ac yn cymell sgyrsiau agored a chyfryngu drwy bortreadau.   

Yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Ffotograffiaeth, ac wedi ennill Gwobr ‘Power of Photography’ gan Gylchgrawn AP.  Mae Aneesa hefyd yn gweithio yn y maes darlledu a Chwaraeon, ac wedi ennill Gwobr Arddangosfa Ryngwladol Unigol RPS ac mae ei gwaith wedi’i gynnwys yn y Guardian, Forbes Woman Africa a’r BBC.  Mae wedi derbyn cydnabyddiaeth yng nghyfres Portread o Ddynoliaeth yn y British Journal of Photography am dair blynedd yn olynol. 

Mae ymagwedd Aneesa tuag at gyfathrebu gweledol wedi arwain at arddangosfa deithiol “Only Human” a gafodd ei harddangos yn y Royal Albert Hall ym mis Mehefin 2024.  Mae ei gwaith diweddaraf yn agor yn Oriel Saatchi ar 4 Tachwedd 2024 tan 5 Ionawr 2025. 

The Fighting Spirit of South London

Dathliad o ddiwylliant cyfoethog o fewn ardal yn Ne Llundain lle y magwyd Aneesa.  Ffotograffiaeth sy’n ceisio nodi gonestrwydd ac urddas pob unigolyn. 40 portread, 40 o straeon.

Cymuned amrywiol yn Llundain sydd wedi’u huno drwy gryfder, caledi a natur benderfynol.  Gyda thema sylfaenol o anawsterau bywyd a goresgyn yr anawsterau hynny.  Taith pobl Llundain sydd wedi’i huno gan gamp lle na sylwir ar liw.  Straeon gweledol tosturiol sy’n cynnig cariad a gobaith.

2
From the series: The Fighting Spirit of South London

3
From the series: The Fighting Spirit of South London

Mae Aneesa yn adnabyddus am archwilio cymuned, gwydnwch, gobaith a thrafodaethau cymdeithasol, drwy ei gwaith gydag elusennau ieuenctid, ysgolion, colegau a phrifysgolion, mae’n gobeithio annog a chefnogi pobl ifanc o bob cefndir i ddilyn eu llwybrau creadigol.

4
Children of Tabago

5

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp