Dewi Lewis

Northern Eye Festival 2024

23 Tachwedd, 2024 - 24 Tachwedd, 2024

Date(s)
23 - 24/11/2024
Cyswllt
Northern Eye Festival 2024
Disgrifiad
1

Sefydlodd Dewi Lewis ei gwmni cyhoeddi ym 1994. Yn rhyngwladol adnabyddus, ymysg ei awduron mae ffotograffwyr fel Martin Parr, Bruce Gilden, Pentti Sammallahti, Paolo Pellegrin, Sergio Larrain ac Anders Petersen yn ogystal â nifer o ffotograffwyr iau sy’n codi i amlygrwydd. Roedd yn un o sylfaenwyr Gwobr Cyhoeddwyr Ewrop ar gyfer Ffotograffiaeth a fu’n mynd tan 2016, gan gydweithio’n agos â nifer o gyhoeddwyr eraill o Ewrop.

Yn Gymrawd er Anrhydedd i’r Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol, fo oedd enillydd gwobr gyntaf y Gymdeithas honno am Wasanaeth Rhagorol i Ffotograffiaeth a chyflwynodd Sefydliad Kraszna-Krausz wobr Cyfraniad Rhagorol i Gyhoeddi iddo yng Ngwobrau Ffotograffiaeth y Byd Sony. Mae Dewi Lewis Publishing wedi ennill gwobr PHotoEspaña am Gwmni Cyhoeddi Rhagorol y Flwyddyn ac mae ei deitlau wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr Llyfr Ffotograffau Aperture/Paris Photo a Gwobr Llyfr Rencontres d’Arles.

Mae wedi bod yn feirniad mewn sawl cystadleuaeth fawr ac yn adolygwr portffolios mewn digwyddiadau ffotograffiaeth rhyngwladol dirifedi. Am dair blynedd, roedd yn ‘Feistr’ ar gyfer Dosbarthiadau Meistr Joop Swart World Press Photo. Yn ogystal â’i lyfr ei hun, Publishing Photography, mae’n ysgrifennu testunau achlysurol ar ffotograffiaeth ac mae wedi curadu arddangosfeydd sy’n cynnwys sioe arolwg o’r cylchgrawn poblogaidd yn y DU, Picture Post, ar gyfer Gŵyl Atri yn yr Eidal.

2

3

4

5

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp