Browser does not support script.
Amrywiol
11 Ionawr, 2020, 12am
11/01/2020 00:00:00
Cynhaliwyd y Noson PechaKucha gyntaf yng Ngŵyl y Northern Eye fis Hydref ac roedd yn braf gweld amrywiaeth o gyflwynwyr a chael clywed am eu gwaith.
Rydym ni bellach yn falch o gyhoeddi ein hail Noson PechaKucha.
Mae PechaKucha (sgwrsio mewn Japaneg) yn fformat adrodd stori syml lle’r ydych chi’n dangos 20 llun am 20 eiliad yr un. Mae’r lluniau’n newid yn awtomatig ac rydych chi’n siarad wrth iddyn nhw newid. Does dim modd aros ar lun na mynd yn ôl – mae gennych chi 6 munud a 40 eiliad i gyflwyno!
Mae’n gyflym, yn addysgiadol a, gorau oll, yn HWYL!
Wedi’u hysbrydoli gan eu hawch i “siarad llai, dangos mwy”, creodd Astrid Klein a Mark Dytham o Klein-Dytham Architecture, Tokyo, PechaKucha ym mis Chwefror 2003. Yn 2004 dechreuodd ddinasoedd yn Ewrop gynnal Nosweithiau PK, wedi’u dilyn gan gannoedd o rai eraill. Ers mis Ebrill 2019 mae Nosweithiau PechaKucha wedi’u cynnal mewn mwy na 1142 o ddinasoedd ar draws y byd, gyda mwy na 3 miliwn o bobl wedi bod yn bresennol ynddynt.
Rydym ni’n edrych ymlaen at gynnal nosweithiau PK rheolaidd ym Mae Colwyn yn 2020 – blwyddyn berffaith ar gyfer y fformat ‘20 delwedd x 20 eiliad’!
I ddathlu ein harddangosfa newydd gan 'The North Wales Project' bydd cyfrol 2 yn cael ei chynnal yn Oriel Colwyn yr un noson ag agoriad yr arddangosfa.
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.