Rewilding in Britain and Ireland
Cyd-gyflwyniad unigryw ‘am un noson yn unig’ yn cyfuno ffotograffiaeth David Woodfall a cherddoriaeth newydd gan y pianydd jazz enwog o Gymru, Huw Warren.
Bydd David yn agor y noson drwy ddangos ei ddelweddau a siarad am ei waith, cyn cyflwyno sioe sleidiau o ddelweddau i gyfeiliant Huw, a fydd yn chwarae darnau newydd byw i’r piano a gyfansoddodd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad hwn.
Yna fe gawn ni sesiwn Holi ac Ateb fer.

David Woodfall
Mae'r naturiolwr a’r ffotograffydd David Woodfall wedi treulio blynyddoedd yn gweithio yng nghefn gwlad, yn cyfarfod pobl ar linell flaen dad-ddofi’r tir, gan gasglu eu hanesion a thynnu lluniau o’r bywyd gwyllt. Mae ffotograffau trawiadol Woodfall o fyd natur yn cynnig dealltwriaeth fanwl o’r mudiad Dad-ddofi Tir hanfodol a’r bobl sy’n ei arwain.
Wedi treulio dros 22 o flynyddoedd yn tynnu lluniau o fyd natur, mae BBC Wildlife wedi ei ddisgrifio fel ‘bardd tirluniau Prydain ac Iwerddon’.
Mae wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol gan gynnwys dod yn fuddugol yn ei gategori yng Ngwobrau Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn a Natures Best (UDA). Mae ei lyfrau, sef Natural Heartlands a Flowers at my Feet, ill dau wedi cael canmoliaeth uchel yng Ngwobrau Llyfr Hanes Natur y Flwyddyn.
Mae dad-ddofi’r tir wedi dod yn bwynt siarad allweddol yn y mudiad cadwraeth modern. Ond mae yna gamddealltwriaeth gyffredin mai ymgyrch ydyw i lenwi coedwigoedd gyda lyncsod, bleiddiaid ac eirth. Mewn gwirionedd, mae’r ethos sy’n arwain mudiad dad-ddofi tir Prydain yn llawer mwy amrywiol, gyda chwmpas llawer ehangach. Mae hefyd yn llawer mwy cymhleth, ac yn galw am ddealltwriaeth drylwyr o gymhlethdod ecosystemau rhanbarthol.

Atlantic White Sided Dolphins (Lagenorhychus acutus) ,two animals breaching the surface © David Woodfall

Huw Warren.
Mae Huw Warren, y pianydd a’r cyfansoddwr o Gymru, wedi ennill enw da yn rhyngwladol am gyfansoddi cerddoriaeth arloesol ac eclectig dros yrfa sydd wedi para deng mlynedd ar hugain. Mae’r un mor gyfforddus yn croesi bydoedd unigryw jazz, cerddoriaeth y byd a cherddoriaeth gyfoes; mae ganddo lais unigryw a phersonol, ac mae wedi cydweithio gydag amrywiaeth eang o artistiaid o bob cwr o’r byd.
Mae ei arddull cyfansoddi yn cyfuno rhigolau rhythmig hynod gyda phrydferthwch melodaidd syml, ac mae’n llwyddo i fod yn gymhleth ac yn agos atoch ar yr un pryd, gan ymgorffori amrywiaeth eang o wahanol nawsau, o ddarnau araf a llawn mynegiant i ddarnau byrfyfyr gwyllt.
Mae wedi ennill Gwobr Jazz y BBC am Arloesi, a Gwobr Cymru Greadigol CCC, yn ogystal â chyfansoddi ar gyfer sawl ensemble, gan gynnwys Cerddorfa Siambr yr Alban, Cerddorfa Siambr Cymru, RSC, ensemble LPO Renga, Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, The Orlando Consort, Ensemble Plus, Koch Ensemble a Tango Siempre.
Mae Huw wedi ehangu ei gronfa gydweithredol ymhellach yn ddiweddar, gan weithio gydag artistiaid geiriau llafar, artistiaid gweledol, gwneuthurwyr ffilmiau, coreograffwyr a ffotograffwyr. Fe welwn ni’r cydweithio hwn yn Rewilding, sy’n cynnwys cerddoriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y noson.
Dydd Sadwrn 20 Ebrill 2019
Drysau’n agor am 7.00pm a’r perfformiad i gychwyn am 7.30pm