Suzie Larke

Northern Eye Photography Festival 2021

9 Hydref, 2021 - 10 Hydref, 2021

Date(s)
09 - 10/10/2021
Cyswllt
Northern Eye Photography Festival 2021
Disgrifiad
cover

Artist gweledol a ffotograffydd sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yw Suzie Larke. Graddiodd gyda gradd mewn ffotograffiaeth yn 2002 ac ers hynny mae hi wedi gweithio’n rhyngwladol fel ffotograffydd masnachol a ffotograffydd portreadau.

Mae ei ffotograffiaeth celf gain yn archwilio themâu hunaniaeth, emosiwn ac iechyd meddwl.

Mae gan Suzie ddiddordeb mewn cynrychioli’r cyflwr mewnol yn hytrach na dal ennyd mewn amser. Mae hi’n creu delweddau sy’n herio ein syniad o realiti – yn cyfuno ffotograffau i greu delwedd sy’n herio rhesymeg.

Trawsnewidiodd ei phrosiect ‘In the Minds Eye’ ei phrofiad personol hi ei hun o iselder yn rhywbeth diriaethol wrth archwilio'r cyd-adweithio rhwng y posibl a'r amhosib.  Nod Suzie oedd creu delweddau sy'n hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r sbectrwm o brofiadau o iselder. I herio’r ddelwedd safonol o 'ben yn y dwylo' sy'n aml yn cael ei defnyddio i ddarlunio iselder, codi ymwybyddiaeth a thorri drwy'r stigma.

Noddwyd 'In The Mind’s Eye' gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth Mind Cymru, Disability Arts Cymru a Time to Change - bu ar daith o amgylch orielau Cymru yn ystod 2017 a 2018.

Prosiect ‘Unseen’

Mae ei phrosiect presennol ‘Unseen’ yn mynd â’i gwaith personol ymhellach drwy ddefnyddio ffotograffiaeth gysyniadol i ddarlunio profiadau iechyd meddwl grŵp o gyfranogwyr.

Mae Suzie’n defnyddio delweddaeth saernïol, gan wnïo ffotograffau at ei gilydd yn ddigidol fel eu bod yn edrych fel un ddelwedd heb ei chyffwrdd.

Drwy ddefnyddio ‘realaeth hud’ i drawsnewid ffotograffau o bethau bob dydd a'u cam-ystumio mae hi’n creu delweddau sy’n dehongli’r profiad goddrychol o anawsterau iechyd meddwl. 

Mae’r prosiect ‘Unseen’ yn anelu at helpu pobl i fynegi eu profiadau drwy ffotograffiaeth gysyniadol. Mae’n anelu at gynyddu ymwybyddiaeth ac ennyn sgyrsiau am les meddyliol, ac uno pobl drwy ledaenu’r neges fod pawb yn mynd drwy - ac yn gallu goresgyn - adfyd. 

Cefnogir Unseen gan Unlimited a’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

www.suzielarke.com

2

3

4

5

6

7

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp