Symudodd Anne Worthington i ystâd ym Manceinion o’r enw Hulme a daeth yn rhan o’r cymysgedd o artistiaid, cyn-fyfyrwyr a sgwatwyr a oedd wedi meddiannu’r blociau fflatiau a oedd wedi’u gadael yn rhannol. Tua diwedd y 1980au oedd hi; cyfnod Treth y Pen a dechrau’r diwylliant rave, a dyma’r ardal lle’r oedd llawer o gelf, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth ddirgel yn digwydd ym Manceinion. Roedd hi’n rhan o’r grŵp perfformio, Dogs of Heaven a luniodd nifer o ddigwyddiadau ar raddfa fawr ar draws y wlad.
Roedd y perfformiadau’n enfawr o ran maint, am ddim i’w gwylio a byddai miloedd o bobl yn clywed amdanynt ar lafar gan ymgasglu yn y lle cywir ar yr amser cywir. Rhywle rhwng sioe a defod, roedd y peryglon a oedd yn rhan o’r digwyddiadau hyn yn golygu na ellid eu cynhyrchu heddiw. Er mwyn rhoi blas, defnyddiodd y grŵp bren o risiau a ganfuwyd mewn adeiladau gwag i adeiladu Dyn o Wiail ddeugain troedfedd o uchder, a’i lwytho ar dryciau i’w losgi yng Ngŵyl Glastonbury. Nododd eu sioe olaf ddiwedd Hulme cyn i’r ystâd gael ei dymchwel a’i hadfywio; cafwyd dymchweliad byw, gyda thân hylifol yn tywallt i lawr y bloc o fflatiau, a cheir yn cael eu taflu oddi ar y to er mwyn nodi’r diwedd cyfnod.
Tua’r adeg hon oedd y tro cyntaf wnaeth hi godi camera ac addysgu ei hun sut i dynnu ffotograffau.

Aeth hi ymlaen i fod yn ffotograffydd dogfennol, gan weithio o amgylch y wlad mewn hen Land Rover. Dros yr ugain mlynedd nesaf, cynhyrchodd gorff o waith a oedd yn amlygu cyflwr tai ac effaith newid cymdeithasol ac economaidd a ddechreuodd yn ystod y 1980au.

Mae hi wedi dogfennu nifer o agweddau ar ein bywydau: prosiectau hir am weithwyr adeiladu, ein system addysg, cyn-gymunedau glofaol yng Nghymbria, effaith dad-ddiwydiannu mewn gwahanol rannau o’r wlad, effaith newidiadau mewn polisi tai, ffotograffiaeth ymgyrchu sy’n dangos profiadau byw gydag anabledd, ac effaith adfywio.

Mae rhywfaint o’r gwaith hwn yn ei rhoi mewn cyswllt â phobl ar yr ymylon, sy’n aml yn cadw’r gymdeithas i fynd. Pŵer ffotograffiaeth o ran adrodd straeon sy’n ei diddori hi. Yn bennaf oll, mae hi am i’r bobl mae hi’n eu cyfarfod ddweud wrthych chi amdanyn nhw eu hunain a chawn weld sut mae grymoedd mwy cymdeithas yn effeithio ar fywyd rhywun. Mae’r bobl mae hi’n gweithio gyda nhw wedi ei chyffwrdd a’i newid.

Mae gwaith dogfennu yn gadael ysbrydion gyda ffotograffwyr, ar ôl bod yn dyst i amgylchiadau all fod yn anodd delio â nhw ond y bydd angen eu cydnabod. Mae ffotograffwyr yn gweld straeon yn debyg iawn i sut mae awduron yn eu gweld, ond mae’n rhaid i ffotograffydd gwtogi’r hyn maen nhw’n ei weld i lawr i ffrâm neu ddwy. Efallai na fydd ffotograff yn rhoi digon o le i wneud cyfiawnder â stori, fel y gall ysgrifennu ei wneud. Ysgrifennodd nofel o’r enw The Unheard a ddaeth allan yn 2023 ac enillodd Wobr Michael Schmidt. Mae’r llyfr yn mynd â darllenwyr yn ddwfn i’r byd y mae ei chymeriadau’n ei weld. Mae hi wedi ysgrifennu traethodau a ffuglen fer ac mae hi’n gweithio ar nofel arall.
Mae ei ffotograffau i’w gweld yn Archif Diwylliant Prydain ac maen nhw wedi’u gweld yn un o arddangosfeydd teithiol yr Archif hefyd, ynghyd â ffotograffau gan Tish Murtha. Mae hi’n aelod o grŵp f8 Documentary a bydd hi’n cyhoeddi llyfr gyda Café Royal yn 2025 a llyfr gyda Fistful of Books yn 2026/7.

British Culture Archive: Documenting Life in East Manchester 2000s | Anne Worthington
The Unheard: The Unheard by Anne Worthington | confingo
Mae TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.
Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.
Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.
Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.
Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn AM DDIM er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.