Barry Lewis

Talk Photo

28 Chwefror, 2025, 7pm

Date(s)
28/02/2025
Cyswllt
Talk Photo
Disgrifiad
1

Dechreuodd Barry Lewis fel athro cemeg gyda ffotograffiaeth fel hobi. Rhoddodd Barry y gorau i addysgu yn 1974 pan enillodd ysgoloriaeth i’r Coleg Celf Brenhinol ble astudiodd ffotograffiaeth dan Bill Brandt. 

Yn 1976 enillodd wobr Vogue a gweithiodd gyda’r cylchgrawn am flwyddyn.

2
Andy Warhol on a visit to London © Barry Lewis

Yn 1977 cafodd grant gan gyngor y celfyddydau i dynnu lluniau o gymudo yn Llundain, a chawsant eu harddangos yn Amgueddfa Llundain a’r Southbank.

Yn 1981 ac 83 cafodd ei waith ei arddangos yn Oriel y Ffotograffwyr ar gyfer ‘New Work on Britain’ a sioe unigol, ‘A Week in Moscow’

Gan weithio i gylchgronau’n bennaf, yn 1999, cydsefydlodd yr asiantaeth ffotograffau Network a chwaraeodd ran bwysig mewn Ffoto-newyddiaduraeth ym Mhrydain am dros 20 mlynedd.

Mae Barry wedi cyfrannu’n rheolaidd at Life Magazine, National Geographic, a’r Sunday Times, ac wedi gweithio ym mhob cwr o’r byd hyd at 2014 ac wedi cynhyrchu 20 llyfr. Aeth ei lyfr diweddaraf, GULAG i rownd derfynol gwobrau Lucie Photobook. Mae wedi arddangos ar hyd a lled y byd ac wedi cael sawl gwobr yn cynnwys medal Leica am ffotograffiaeth ddyniaethol.

3
Bread and soup for prison lunch at Camp AW261/4 – GULAG © Barry Lewis

O 2015 am 5 mlynedd, gweithiodd Barry ar ffilmiau dogfen yn bennaf, ond dychwelodd at ffotograffiaeth yn 2021 pan ddechreuodd ei waith cyfredol parhaus, “Intersections”: astudiaeth o Lundain drwy bortreadau a geiriau’r bobl.  

4
Glastonbury Festival, 2015. Shangri La is a festival of contemporary performing arts held each year within Glastonbury Festival. The theme for the 2015 Shangri La was Protest. Staged public demonstration storming the Hell stage in Shangri La. © Barry Lewis

Mae gwaith Barry wedi cael ei gyhoeddi a’i arddangos yn eang – Ymhlith ei wobrau mae:

  • Vogue Award
  •  World Press Award
  • Medal Oscar Barnak am ffotograffiaeth ddyniaethol     
  • Beirniad yng ngwobrau Sony World Press Moving Image Awards 2011

www.barrylewisphotography.com

Instagram #barrylewisphotography

Talk Photo

Mae TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.

Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.

Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.

Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.

Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn AM DDIM er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp