Artist a ffotograffydd portreadau yn Swydd Efrog yw Carolyn Mendelsohn yn bennaf, ond mae hi’n gweithio ar draws y DU ac yn arbenigo mewn adrodd straeon ac amlygu lleisiau tawelach drwy gyd-gynhyrchu portreadau. Mae hi’n angerddol am fedru cysylltu a chyfathrebu gyda phobl o bob oedran a chefndir er mwyn creu gwaith cryf a phwerus yn seiliedig ar fywydau a straeon.
Caiff Carolyn ei chydnabod yn rhyngwladol am ei phortreadau, gan gynnwys ei chyfres o bortreadau, arddangosfeydd a’i llyfr Being Inbetween, cyfres o bortreadau a straeon am ferched rhwng 10 a 12 oed (sy’n cynnwys casgliad a gafodd ei arddangos fel rhan o Ŵyl y Northern Eye ym mis Chwefror 2021) a hi yw sylfaenydd Through Our Lens, gweithdy a rhaglen fentora sy’n galluogi pobl i adrodd eu straeon drwy gyfrwng ffotograffiaeth.
Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn rhyngwladol, drwy arddangosfeydd unigol a grŵp mewn orielau cenedlaethol gan gynnwys Impressions Gallery, Bradford, The Imperial War Museum, Llundain, Galerie Huit Arles, Ffrainc, Neuadd Frenhinol Albert, ac mewn orielau ar draws y DU ac Ewrop. Mae’r BBC, The Guardian, The Sunday Times, The Telegraph, La Monde, The British Journal of Photography, The Royal Photographic Society Journal a llawer mwy wedi cyhoeddi ei gwaith.
Mae gwobrau Carolyn yn cynnwys BJP Portrait of Britain 2017, 19, 21, 23 – Open Wall Arles 2020, Kuala Lumpa International Portrait Awards 2021, Gwobr Aur RPS IPE (arddangosfeydd ffotograffiaeth rhyngwladol y Royal Photographic Society) 159 a llwyddodd i gyrraedd rownd derfynol RPS IPE 160. Yn 2020, Carolyn oedd enillydd y categori Portrait Series yng ngwobrau Julia Margaret Cameron 15. Enwebwyd Carolyn ar gyfer gwobr 100 heroines y Royal Photographic Society.
Cyhoeddwyd ei monograff Being Inbetween gan Bluecoat Press ym mis Tachwedd 2020.
Mae hi’n ffotograffydd llawrydd ac yn artist preswyl ar gyfer Born In Bradford, ac yn gweithio ar brosiectau personol a phortreadau a gomisiynir.

Portraits from the series Being Inbetween ©Carolyn Mendelsohn

From the series Hardy and Free ©Carolyn Mendelsohn
Mae TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.
Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.
Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.
Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.
Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn AM DDIM er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.