Colin McPherson

Talk Photo

3 Mawrth, 2026, 7pm

Date(s)
03/03/2026
Cyswllt
Talk Photo
Registration URL
https://theatrcolwyn.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173671564
Disgrifiad
Cover2 Colwyn

Mae Colin McPherson yn ffotograffydd dogfennol Albanaidd/Almaenaidd sydd wedi'i leoli ar Lannau Mersi ers 20 mlynedd.

Event Poster

Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Mawrth

Amser: 7pm (drysau ar agor 6.30pm)

Lleoliad: I fyny'r grisiau yn Oriel Colwyn


Dechreuodd yrfa Colin McPherson yn y maes ffotograffiaeth wrth weithio yn y papurau newydd lleol yn ei fro enedigol, Caeredin, cyn iddo symud ymlaen i weithio i bapurau a chylchgronau cenedlaethol, gan gynnwys dros 20 mlynedd yn yr Independent a’r Independent on Sunday, nes i’r wasg ddod i ben yn 2016. O ganlyniad, arddangosodd gyfres o luniau a thoriadau papur newydd o’i amser gyda’r wasg yn Oriel Colwyn yn 2017, ac rydym yn falch iawn o wahodd Colin yn ôl i siarad am ei waith yn y sesiwn Talk Photo arbennig hon.

Photographer's image of politician Jacob Rees-Mogg stepping over a gate after leaving a property on the campaign trail. 

Mae Colin yn arbenigo mewn prosiectau hirdymor, gan gynnwys Catching the Tide, cyfres sy’n dogfennu pysgota eog gyda rhwyd yn yr Alban, a ddechreuodd yn 1996, a gyhoeddwyd a’i harddangoswyd yn rhyngwladol.

Photogrphers image of two fishermen wading through calf-deep water on a beach.  The image is taken through a fishing net.

Mae Colin yn cynnal ymgyrch Kickstarter ar hyn o bryd, gyda Dewi Lewis, er mwyn cyhoeddi llyfr o ddelweddau o’r prosiect, yr haf hwn. Gallwch ganfod rhagor am yr ymgyrch, a helpu i ddod â hi’n fyw YMA

Mae Catching the Tide yn bortread mynegiannol o bysgota eog gyda rhwyd dros 30 mlynedd yn yr Alban. Drwy ei ffotograffiaeth, mae Colin yn cyflwyno’r dynion y cafodd y cyfle i’w cyfarfod a gweithio gyda nhw dros dri degawd, wrth iddynt ymdrechu i wneud bywoliaeth o ffordd o fyw sy’n ymestyn yn ôl sawl cenhedlaeth, ac sydd bron â diflannu o gymunedau arfordirol y wlad erbyn heddiw.

Photographers image of two fishermen working in the rain.  Both are stood in the water.  One holds a net containing a number of large fish.

Mae Colin wedi casglu archif sylweddol o luniau o ddiwylliant pêl-droed hefyd drwy ei waith ar gyfer y cylchgrawn misol ‘When Saturday Comes’. Cyhoeddwyd y gwaith hwn yn 2024 ar y cyd gyda’i gydweithwyr Paul Thompson a Simon Gill yn ‘At The Match’, crynodeb o luniau a dynnwyd dros y ddau ddegawd diwethaf. 

Photographer's image of a group of Everton football fans walking past a backdrop of the buildings painted in blue.  A sign above reads "Everton in the Community".

 

Talk Photo

Mae  TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol gyda’r nos a gynhelir yn rheolaidd yn Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma  YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.

Mae tocynnau cynulleidfa ar gael ar sail cyntaf i’r felin.

Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.

Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.

Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn  AM DDIM  er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp