Dennis Morris

Talk Photo

28 Medi, 2024, 7pm

Date(s)
28/09/2024
Cyswllt
Talk Photo
Disgrifiad
1

Dechreuodd gyrfa Dennis Morris pan oedd yn ifanc. Roedd yn 11 oed pan argraffwyd un o’i ffotograffau ar dudalen flaen y Daily Mirror. Roedd wrth ei fodd â’r camera ers pan oedd yn 8 oed. Roedd yn cael ei adnabod yn ei gymdogaeth yn Nwyrain Llundain fel Mad Dennis gan ei fod yn ffafrio ffotograffiaeth dros bêl-droed. Ar ôl digwydd dod ar draws gwrthdystiad gan y PLO un dydd Sul fe aeth Dennis, oedd yn fachgen ifanc craff, â’i ffilm i asiantaeth ffotograffiaeth ar Stryd y Fflyd a werthodd y ffilm ar unwaith i’r Daily Mirror am £16.   Wedi arfer codi arian i dalu am ffilmiau a rhannau i’r camera drwy dynnu lluniau bedydd a phartïon pen-blwydd, sylweddolodd Dennis yn sydyn iawn fod rhywbeth newydd yma; gallai ddefnyddio ei ddiddordeb a’i angerdd i wneud bywoliaeth. 

Dechreuodd gyrfa ffotograffiaeth cerddoriaeth Dennis go iawn wedi iddo golli ysgol i aros i Bob Marley gyrraedd am sesiwn wirio sain yn y Speak Easy Club ar Margaret Street.  Roedd Marley wedi ei blesio â’r bachgen ifanc yn ei arddegau a oedd yn aros amdano a gwahoddodd Dennis i ddod draw a thynnu lluniau ar weddill y daith. Rhedodd Dennis adref i Dalston, pacio’i fag a neidio ar y bws. Daeth ei ffotograffau o Marley a The Wailers yn enwog ar draws y byd gan ymddangos ar glawr Time Out a Melody Maker cyn bod Dennis wedi troi’n 17 oed hyd yn oed. 

Ffotograffau Dennis o Marley a dynnodd sylw’r Johnny Rotten ifanc. Roedd Rotten, a oedd wrth ei fodd â reggae, wedi bod yn edmygu gwaith Dennis ers amser a gofynnodd iddo gymryd y lluniau swyddogol cyntaf o’r Sex Pistols wrth iddynt arwyddo cytundeb â Virgin Records.  Roedd Dennis, a oedd dal yn ei arddegau, yr un oed â’r Pistols a dysgodd y grŵp yn fuan iawn y gallent ymddiried yn llwyr ynddo, gan ganiatáu mynediad heb gyfyngiadau iddo i’w bodolaeth ryfedd a di-drefn. Am flwyddyn dilynodd Dennis y band gan gymryd cannoedd o luniau gwych o’r band. Dennis oedd yr unig ffotograffydd a wnâi i’r Sex Pistols deimlo’n gwbl gartrefol o flaen y lens a sefydlodd gwaith Dennis gyda’r band nid yn unig eu delwedd gyhoeddus ond hefyd safle Dennis fel un o’r ffotograffwyr cerddoriaeth mwyaf cyffrous a hynod yn y wlad. 

Pan chwalodd y Pistols Dennis aeth gyda John Lydon a Richard Branson ar wyliau i Jamaica. Erbyn hyn yn ffrind agos i Lydon, fe aeth y ddau ati i chwilio am artistiaid reggae ifanc ar gyfer label recordio Branson. Gan ei fod mor hoff o chwilio am dalent ar gyfer labeli recordio fe ymgymrodd Dennis â swydd Cyfarwyddwr Artistig yn Island Records ac arwyddodd The Slits ac L.K.J i’r label. Gan barhau i weithio gyda John Lydon, roedd Dennis yn allweddol yn y broses o greu cloriau arloesol, logo a blwch metel ar gyfer y grŵp P.i.L. Arweiniodd ei angerdd tuag at gerddoriaeth ef i ffurfio ei fand pync du arloesol ei hun, Basement Five. 

Llenwyd y blynyddoedd nesaf gyda cherddoriaeth wrth i Dennis dorri o’r patrwm cerddoriaeth unffurf a dod yn rhan o’r broses o wneud recordiau. Yn 1984 fe ffurfiodd y grŵp bas a drwm Urban Shakedown, a godwyd gan Paul Weller a daethant y grŵp cyntaf i ryddhau ar ei label Respond. Cafodd ei grŵp Boss yn niwedd yr 80au ei arwyddo gan Virgin Records a rhyddhaodd y grŵp 4 sengl. 

Gyda gyrfa yn rhychwantu dros 20 mlynedd a c.v. sydd fel rhestr o bwy ydi pwy mewn cerddoriaeth a diwylliant poblogaidd, mae Dennis Morris yn parhau i dynnu lluniau cerddorion blaenllaw yr oes fel Bush, Oasis a The Prodigy. Mae nifer o lyfrau yn ymwneud â’i waith wedi eu cyhoeddi fel Bob Marley: A Rebel Life; mae wedi cynnal arddangosfeydd yn y DU, Siapan a Chanada, ac mae ei luniau wedi ymddangos yn Rolling Stone, Time, cylchgrawn People a’r Sunday Times, ymhlith eraill.

Mae Dennis Morris nawr yn byw yn Llundain gyda’i wraig a’i blant. Yn ffotograffydd proffesiynol uchel ei barch mae hefyd yn ymwneud â phrosiectau ar gyfer y BBC a Channel 4.

1
© Dennis Morris

3
© Dennis Morris

4
© Dennis Morris

Talk Photo

 

Mae TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.

Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.

Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.

Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.

Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn AM DDIM er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp