Mae James Clifford Kent yn dychwelyd i Oriel Colwyn – cartref ei arddangosfa gyntaf, Memories of a Lost Shark (2013) – i rannu storïau am ei waith yn y DU a Chiwba.
Ffotograffydd sy’n seiliedig yn Llundain yw James Clifford Kent, ac mae’n ddarlithydd diwylliant gweledol yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Mae ei arfer sy’n ymgysylltu â chymdeithas a’i brosiectau ar y cyd yn cysylltu pobl trwy bŵer adrodd storïau gweledol.
Mae ei waith sydd wedi ennill gwobrau sy’n archwilio storïau heb eu hadrodd a chymunedau ar yr ymylon wedi’i gyhoeddi’n eang ac wedi’u cynnwys yn y wasg (The Times a The British Journal of Photography) a chyfnodolion o’r radd flaenaf (The Lancet, History of Photography a Royal Photographic Society Journal).
Mae hefyd wedi arddangos gwaith a chefnogi prosiectau curadurol yn Academi Frenhinol y Celfyddydau a The Photographers’ Gallery a hwyluso gweithdai a darparu prif sgyrsiau mewn sefydliadau mawreddog, gan gynnwys y Llyfrgell Brydeinig a Fototeca de Cuba. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf – Aesthetics and the Revolutionary City – yn 2019 a dyfarnwyd Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol iddo yn 2022.
Mae James wedi bod yn teithio’n rheolaidd i Giwba ers 2004, gan weld digwyddiadau hanesyddol fel gorymdaith angladdol cyn Arweinydd Ciwba, Fidel Castro, yn 2016. Mae ei brosiect sydd wedi ennill gwobrau, “¡No hay más na’!” (There’s Nothing Left, 2022–24), yn cofnodi naratif goroesiad yng Nghiwba oedd mewn argyfwng. Mae gwaith diweddar arall sy’n cofnodi profiadau darpar rieni a gweithwyr gofal iechyd o feichiogrwydd/genedigaeth wedi golygu cydweithio â NHS England (2022-24) a chyfrannu at sgwrs ehangach am iechyd a lles cymdeithasol.
Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ei lyfr ffotograffau cyntaf – Yuma – am ei brofiadau o fyw a gweithio ar yr ynys rhwng 2004-2024.
https://www.jckent.com

Cary, Axiuli & Haytoo, ©James Clifford Kent

Gema Montoya – NHS midwife, ©James Clifford Kent
Mae TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.
Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.
Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.
Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.
Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn AM DDIM er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.