Mae Janine Wiedel yn ffotograffydd dogfennol pwysig yn rhyngwladol, ac mae ei gwaith yn pontio dros bum degawd. Cafodd ei thiwtora gan Ansel Adams a Nancy a Beaumont Newhall, bu iddi dynnu lluniau o fudiad y Black Power yn y 1960au hwyr, a phrotest a reiat 1969 yn People’s Park yn Berkeley. Cyrhaeddodd Lloegr yn 1970, dechreuodd ar gyfres o brosiectau hirdymor parhaus gan gynnwys pum mlynedd yn dogfennu teithwyr Gwyddelig. Mae ei gwaith diweddarach yn cynnwys Gwersyll Merched Comin Greenham, y sgwat cymunedol aml-ddiwylliant yn St Agnes Place, Llundain, a chymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a Rastaffaraidd yn Brixton. Mae ei gwaith diweddaraf yn cynnwys 6 mis o dynnu lluniau ‘Jyngl’ Calais a gwersyll ffoaduriaid Grande-Synthe yn Dunkirk. Mae gwaith gwych Janine, sydd bob amser â rhyw agwedd wleidyddol yn rhan o draddodiadau gorau ffotograffiaeth ddyneiddiol.
Yn 1977, fe aeth Janine Wiedel yn ei fan wersylla VW i dynnu lluniau o’r diwydiant yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr – a oedd un tro yn ganolog i’r Chwyldro Diwydiannol. Roedd rhanbarth a oedd yn gartref i filoedd o fusnesau – o grochenwyr a gemyddion i byllau glo, gwaith dur a haearn – yn wynebu dirywiad sylweddol; roedd tanfuddsoddi ers sawl degawd yn yr adeiladau a’r peiriannau wedi arwain at sefyllfa ddigalon lle nad oedd busnesau a arferai bod o flaen y gad yn rhyngwladol bellach yn gystadleuol ac yn wynebu dyfodol difrifol.
Sylweddolodd Janine bod hwn yn drobwynt difrifol yn hanes diwydiannol Prydain, a dechreuodd ddogfennu’r gweithwyr o fewn eu hamgylchedd gwaith. Rhoddodd y ffatri fynediad nodedig iddi a chafodd groeso gan y gweithlu, a oedd yn gwerthfawrogi ei diddordeb wrth gofnodi eu harferion gweithio dyddiol yn ogystal ag agosatrwydd a rhyngweithio cymdeithasol a oedd yn bwysig iawn mewn amgylcheddau ffatri llym yn aml iawn. Cafodd y gwaith diwydiannol hwn a grëwyd ganddi ei enwi’n Vulcan’s Forge, a fe’i harddangoswyd yn The Photographers Gallery yn 1979, a bellach mae’n ysgrif hyfryd 250+ tudalen o hyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Bluecoat Press.

The Workshop at Smiths Drop Forge in Aston, Birmingham West Midland UK 1978 ©Janine Wiedel

Black Panther Rally to Free Huey Newton at Federal Building in San Francisco California in May 1969 ©Janine Wiedel
Mae TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.
Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.
Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.
Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.
Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn AM DDIM er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.