Jenny Matthews

Talk Photo

18 Mawrth, 2025, 7pm

Date(s)
18/03/2025
Cyswllt
Talk Photo
Disgrifiad
cover

Jenny Matthews

Fy swydd gyntaf oedd athrawes Saesneg ar gyfer y British Council yn Rio de Janeiro, Brasil. Drwy hyn cefais fy nghyflwyno i ryfeddodau America Ladin yn ogystal â pheryglon byw dan unbennaeth filwrol. Prynais fy nghamera cyntaf ym Manaus – parth masnach rydd rhyfeddol yng nghanol yr Amazon – a chefais fy nysgu i argraffu gan ddau ffrind a oedd ag ystafelloedd tywyll yn Rio. Dair blynedd yn ddiweddarach, pan ddychwelais i Lundain, fe’m cyflwynwyd i Camerawork / Half Moon Photography Workshop gan ffrind, ac yn fuan roeddwn wedi dod yn aelod o’r grŵp. Ar ôl bod yn fy swydd yn ystod y dydd, yn addysgu mewn ysgol gyfun, roeddwn yn gweithio ar yr arddangosfeydd teithiol a’r cylchgrawn – proses ddysgu anhygoel a chyflwyniad i fyd ffotograffiaeth ddogfennol.

Wedi sawl blwyddyn yn ysgrifennu a meddwl am ffotograffau, penderfynais ddychwelyd i America Ladin, ac ym 1982 treuliais bum wythnos yn teithio yn Bolivia. Bu rhai cysylltiadau o Gymorth Cristnogol o gymorth gyda logisteg ac agor drysau yn y gymuned fwyngloddio a phentrefi diarffordd Altiplano. Pan ddychwelais argraffais gasgliad o ffotograffau a mynd â nhw o gwmpas adrannau lluniau papurau newydd a chylchgronau. Rywsut, fe weithiodd hyn. Nid oedd yn llawer o arian ond roedd yn ddigon i dalu bil fy ngherdyn credyd a phrynu tocyn ar gyfer fy nhaith nesaf – i Nicaragua, gwlad fechan anhysbys bron yng Nghanolbarth America, lle bu chwyldro ddwy flynedd ynghynt. Yn raddol datblygais gysylltiadau o fewn grwpiau cefnogi ac asiantaethau datblygu, ac fel arfer roeddwn yn llwyddo i gael rhai dyddiau o waith wedi ei gomisiynu ar gyfer teithiau’r oeddwn eisiau eu gwneud, yn edrych yn benodol ar fywydau merched.

1
Managua, Nicaragua 1984. Martha Lorena on guard duty outside the main telecommunications office. ©Jenny Matthews

Ym 1983 gwahoddodd Maggie Murray a Val Wilmer grŵp o ffotograffwyr benywaidd i sefydlu asiantaeth ffotograffiaeth gyda hwy – Format Photographers – ac roeddwn i’n ffodus o gael fy ngwadd i ymuno â nhw. Nid oedd bod yn rhan o grŵp yn hawdd bob amser, ond fel grŵp roedd gennym lawer mwy o rym i ddosbarthu, gwerthu a rheoli’r hyn oedd yn digwydd i’n lluniau. Bu Cyngor Llundain Fwyaf, dan reolaeth y Blaid Lafur, o gymorth gydag ariannu i ddechrau, a rhoddodd y Mudiad Heddwch (gan gynnwys y gwersyll ar Gomin Greenham) a Streic y Glowyr ddigonedd o gyfleoedd i ni dynnu lluniau. Ym 1989, rhoddodd Format y gorau i fod yn grŵp anhylaw, a symudais i Network. Dioddefodd y ddwy asiantaeth yn y pen draw o ganlyniad i ddigideiddio, ac nid oeddynt yn gallu gweithredu yn yr hinsawdd newydd didostur o werthu lluniau. Daeth Format i ben yn 2003, a Network yn 2005.

2
Palestine, West Bank. Olive harvest. ©Jenny Matthews

Yn y 1980au bûm yn gweithio’n bennaf yn Ne a Chanolbarth America, ac yn y 1990au yn Affrica. Roeddwn yn gweithio yn Rwanda ychydig cyn yr hil-laddiad ym 1994, a gwnes nifer o deithiau yno i ddogfennu goroeswyr ar gyfer Africa Rights.

Bu 1988 yn flwyddyn allweddol i mi… bûm ar daith y wasg i Eritrea gyda War on Want, a bu i ni ddigwydd cyrraedd yn ystod brwydr enfawr i ryddhau’r wladwriaeth fechan oddi wrth Ethiopia. Rai misoedd yn ddiweddarach roedd rhai ffrindiau benywaidd yn gwneud ffilm ar ferched Affgan ar gyfer Channel 4, yn Affganistan a Phacistan, ac ymunais â hwy fel ffotograffydd lluniau llonydd. Byddwn yn dychwelyd yn ddiweddarach i’r ddwy wlad sawl gwaith ac yn dilyn hynt eu hanes.

Cyhoeddwyd fy llyfr Women and War yn 2003 gan Pluto Press, a bu’r arddangosfa gysylltiedig ar daith fyd-eang. Rwyf bellach yn gweithio ar ail lyfr ar yr un thema. Rwy’n byw yn Hackney, Dwyrain Llundain, ac rwyf wedi bod yn gweithio ar brosiect hirdymor gyda’r gymuned fywiog yma.

Ers 2006 rwyf wedi bod gyda Panos Pictures, asiantaeth sy’n arbenigo mewn materion cymdeithasol byd-eang. Fel pawb arall, daeth fy ngwaith am dâl i stop yn ystod y pandemig, felly dechreuais argraffu delweddau dethol o’m harchif ar gotwm / lliain ac ychwanegu brodwaith. Dangoswyd y gwaith hwn yn ddiweddar yn Photo Oxford, oriel Farley Farm (cartref archif Lee Miller yn Sussex) ac yn oriel Streetlevel, Glasgow.

3
Afghanistan. Girl on skateboard with added embroidery. Dedicated to all active girls now confined to their home. ©Jenny Matthews

Ym mis Hydref 2024 roeddwn yn falch iawn o gael fy ngwneud yn Athro Ffotograffiaeth gwadd ym Mhrifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, yr Alban.”

jennymatthews.photoshelter.com

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp