Mohamed Hassan

Talk Photo

28 Mawrth, 2024, 7pm

Date(s)
28/03/2024
Cyswllt
Talk Photo
Disgrifiad
1

Yn wreiddiol o Alexandria yn Yr Aifft, mae Mohamed Hassan, wedi bod yn byw ac yn gweithio yn Sir Benfro, yng ngorllewin Cymru yn y DU ers 2007.

Mae byw ac astudio yng Nghymru wedi bod yn ganolog i’w daith fel artist wrth iddo gysylltu mwy gyda phobl, cymunedau a thir Cymru. O ganlyniad i’r profiadau hyn, mae wedi ymroi i barhau â’i daith fel artist Cymreig, gan raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth 1af mewn Ffotograffiaeth o Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 2016.

Fel artist sydd â chenedligrwydd deuol, mae prosiect Mohamed yn edrych ar ei hunaniaeth fel rhan o gymuned sydd ar wasgar wedi’i lleoli yng Nghymru ac sy’n ehangu’n barhaus.

2

Mae’r teimlad cyson o fod wedi dadleoli, a chwestiynau am hunaniaeth yn fythol bresennol.

Yn ei ôl o, roedd yn teimlo fel petai mewn breuddwyd pan gyrhaeddodd o yma gyntaf, ac wrth iddo ddarganfod a chrwydro mwy ar Gymru, cafodd ysbrydoliaeth yn y tirweddau garw o’i amgylch. Fel newydd-ddyfodiad i Gymru mae o wedi cael ei gyfareddu gan ei diwylliant ac iaith gyfoethog ac artistig, sydd yn llawn llên gwerin a chaneuon – ac mae ganddo ddiddordeb parhaus yn dogfennu ei brofiad uniongyrchol o’r bobl a’r tir.

Mae Mohamed wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau a chystadlaethau ac mae ei waith wedi cael ei arddangos yn Oriel Mission anrhydeddus, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Arddangosfa Cystadleuaeth Trajectory Showcase yn Shoreditch, Llundain, Nova Cymru 2018, a chafodd portread ei gynnwys yn arddangosfa Photographic Portrait Taylor Wessing2018 yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.

Fwyaf diweddar, mae Mohamed wedi arddangos 4 llun yn ‘Facing Britain’, a guradwyd gan Ralph Goertz yn Kunsthalle Darmstadt Museum Goch – a deithiodd i Koslar a Krakow yn 2022. Yng Nghymru, roedd arddangosfa ‘Many Voices, One Nation 2’ a gefnogwyd gan y Senedd a gafodd ei arddangos yn Ffotogallery, yn cynnwys 11 o’i luniau ac mae 5 o’i luniau wedi cael eu cynnwys yn arddangosfa Oriel Davies ‘Responding to Rembrandt’.

Talk Photo

 

Mae TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.

Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.

Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.

Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.

Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn AM DDIM er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp