Mae’r ffotograffydd o’r Alban, Niall McDiarmid, wedi bod yn byw ac yn gweithio yn Llundain am fwy na 30 mlynedd. Fodd bynnag, mae’n fwyaf adnabyddus am deithio ledled y wlad yn cynhyrchu portreadau stryd lliwgar o Ogledd yr Alban yr holl ffordd i dde Cernyw.
Mae ei waith wedi ei arddangos mewn amrywiaeth o orielau ac amgueddfeydd ledled y wlad ac yn rhyngwladol gan gynnwys Martin Parr Foundation, Amgueddfa Llundain ac wrth gwrs, Oriel Colwyn a’i brosiectau awyr agored ar draws trefi yng Ngogledd Cymru. Yn y misoedd nesaf bydd arddangosfeydd o’i waith yn Sbaen a Gwlad Belg.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae ei waith wedi symud i gyfeiriadau gwahanol gan gynnwys cyfres hir o’r enw Nightfall sy’n canolbwyntio ar y newid yn gynnar min nos rhwng y dydd a’r nos. Er y bu i Niall dyfu fyny ar fferm fechan yn Swydd Perth wledig, mae’r gyfres hon o ddelweddau a gymerwyd ar draws y DU yn adlewyrchu ei hoffter dwys o fannau dinesig. Ar yr un pryd mae gan y gwaith synnwyr o brudd-der sy’n aml yn gysylltiedig â chyfnos.
Bydd Niall yn siarad am ei brosiectau parhaus, ei lawenydd wrth greu ffotograffau stryd yn ddyddiol a’r awydd diderfyn i barhau i deithio ar draws y DU.

Walworth, South London – Feb’ 2022 ©Niall McDiarmid

Bermondsey, London – Jan’ 2022 ©Niall McDiarmid
Mae TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.
Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.
Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.
Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.
Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn AM DDIM er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.