Mae ROO LEWIS yn ffotograffydd sy’n byw yng ngogledd Llundain. Mae ei brosiectau wedi amrywio o ddogfennu derwyddon yng Nghernyw, Iesu Hollywood yn LA ac artistiaid teyrnged Elvis yma yng Nghymru. Mae o wedi gweithio gyda chyhoeddiadau fel Vogue, The Guardian a VICE, ac wedi’i gomisiynu gan frandiau fel Toast, Island Records, Belstaff, Sony a Martell.
Mae ei waith wedi ymddangos yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol a’r Academi Frenhinol.
Caiff prosiectau hirdymor Roo eu datblygu drwy feithrin ffydd cymunedau, a chyfleu ei bynciau gydag empathi, emosiwn a gonestrwydd, a gaiff ei bwysleisio ymhellach yn defnyddio dull analog.
Dros gyfnod o ddwy flynedd mae Roo wedi bod yn tynnu lluniau o dref Port Talbot sydd, yn ôl yr actor Michael Sheen, wedi gweld nifer o wrthrychau hedegog anhysbys neu UFOs. Fodd bynnag, nid yw’r llyfr canlyniadol Port Talbot UFO Investigation Club (a gyhoeddwyd gan GOST yn 2023) yn astudiaeth o wrthrychau hedegog anhysbys sydd wedi’u gweld yn yr ardal ond, yn hytrach, mae’n defnyddio’r ffenomena fel pwynt cychwynnol i archwilio pobl, tirwedd a llên gwerin y dref…


© Roo Lewis

© Roo Lewis
Mae TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.
Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.
Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.
Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.
Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn AM DDIM er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.