Mae Simon Roberts (geni 1974) yn artist gweledol sy’n byw yn Brighton. Mae’n enwog am ei gasgliadau o ffotograffau mawr o dirweddau Prydeinig. Mae ei waith hefyd yn cynnwys fideos, testun a gosodiadau sydd, gyda’i gilydd, yn edrych ar hunaniaeth a pherthyn, a’r berthynas gymhleth rhwng hanes, lle a diwylliant.
Yn 2010 cafodd ei gomisiynu fel Artist Swyddogol yr Etholiad Prydeinig gan Bwyllgor Celf Tŷ’r Cyffredin i gynhyrchu cofnod o’r Etholiad Cyffredinol ar ran Casgliad Celf Senedd y DU; ac yn 2014 cynrychiolodd Prydain yn ystod Blwyddyn Ddiwylliant y Deyrnas Unedig a Rwsia.
Mae ei waith wedi’i ddangos yn eang ac mae ei ffotograffau i’w canfod mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat, yn cynnwys yn y George Eastman House, Casgliad Celf Deutsche Börse ac Amgueddfa Fictoria ac Albert. Yn 2010 cafodd ei gomisiynu fel Artist Swyddogol yr Etholiad Prydeinig gan Bwyllgor Celf Tŷ’r Cyffredin.
Mae wedi ysgrifennu sawl monograff, yn cynnwys Motherland (2007), We English (2009), Pierdom (2013) a Merrie Albion – Landscape Studies of a Small Island (2017).

London Olympiad © Simon Roberts

Merrie Albion © Simon Roberts

Pierdom © Simon Roberts
Mae TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.
Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.
Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.
Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.
Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn AM DDIM er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.