Stephanie Wynne & Stephen McCoy

Talk Photo

6 Mawrth, 2025, 7pm

Date(s)
06/03/2025
Cyswllt
Talk Photo
Disgrifiad
1

Ym 1997, ffurfiodd y ffotograffwyr Stephen McCoy a Stephanie Wynne bartneriaeth o’r enw McCoy Wynne ac maent yn parhau i weithio ar y cyd ac ar wahân, ar gomisiynau a phrosiectau personol. Yn gyffredinol, mae gwaith wedi’i gomisiynu a phrosiectau unigol yn cael eu cyflawni trwy gyfuno cysyniadau, ymatebion a chreu delweddau. Maent yn gweld rhyngweithio rhwng y ddau yn fanteisiol.

Mae eu prosiect cydweithio mawr diwethaf ‘Are You Living Comfortably?’ wedi’i gadw yng Nghasgliad Celf Prifysgol Salford ac maent yn parhau i weithio ar brosiect personol hirdymor arall: “Triangulation” a ddangosir mewn nifer o leoliadau wrth i’r gwaith ddatblygu, gan gynnwys Gŵyl y Northern Eye ac Oriel ac Amgueddfa Victoria, Lerpwl.

2
Are you Living Comfortably  McCoy Wynne Joint commission.

Stephanie Wynne

Mae gwaith personol Stephanie yn ymwneud ag agweddau o’r tirlun ac amgylchedd adeiledig; gan weithio gyda, a thynnu lluniau cymunedau sy’n aml yn mynd i’r afael â newid amgylcheddol. Yn 2023, fe gyflawnodd breswyliad ymchwil artistiaid gydag Oriel Open Eye Lerpwl, gan glo gyda phrosiect unigol ‘The Erosion’ a ddangoswyd fel rhan o’r ‘Liverpool Look Climate Lab’ o Ionawr i Ebrill 2024 ac arddangosfa ‘Beyond Sight’ o Fehefin i Fedi 2024.

O 2017 hyd heddiw, mae Stephanie wedi cael ei chomisiynu gan Oriel Open Eye, Lerpwl, i gyflawni prosiectau ffotograffiaeth Ymarfer Ymgysylltu’n Gymdeithasol. Gan ehangu ei hymarfer, tynnu ar sgiliau ac arbenigedd, i weithio mewn partneriaeth gyda grwpiau merched yng Nghilgwri a phobl ifanc yn Sefton. Yn 2024 fe gydweithiodd gyda chymunedau ar draws y DU i greu’r arddangosfa ‘Grounded’ ar gyfer Consortiwm GroundsWell, grŵp ymchwil iechyd cyhoeddus cenedlaethol mewn prifysgolion yng Nghaeredin, Lerpwl a Queens, Belfast.

Ar hyn o bryd mae hi’n ddarlithydd gwadd ar gyfer cyrsiau Ffotograffiaeth BA (Anrh) ym Mhrifysgol Caer ac UCEN Manceinion.

3
The Erosion © Stephanie Wynne

Stephen McCoy

Mae Stephen McCoy wedi cael gyrfa hir ac amrywiol mewn ffotograffiaeth, ac wedi’i gyflogi fel darlithydd, ffotograffydd llawrydd a gweithio ar brosiectau unigol hirdymor. 

Mae ei waith personol wedi’i wreiddio’n ddwfn yn nhraddodiad dogfennol ffotograffiaeth, er bod “cysyniad” yn hynod o bwysig wrth ysgogi unrhyw brosiect.

Mae ganddo ddiddordeb yn y maes eang o dirlun trefol a naturiol a’r effeithiau mae pobl yn ei gael ar eu hamgylchedd. Yn ei yrfa gynnar, cafodd ei ddylanwadu gan y symudiad Topograffig Newydd Americanaidd a’r ffotograffwyr oedd yn rhan o’r arddangosfa arloesol ym 1975.

Mae gwaith Stephen McCoy wedi cael ei arddangos a’i gyhoeddi’n eang. Yn nodedig, yn 2019 cafodd detholiad o’i waith ei gynnwys yn yr arddangosfa “Home Sweet Home” a ddangoswyd yn Recontres d’Arles a Institut pour la Photographie, Lille, a guradwyd gan Isa Bonnet ac mewn llyfr o’r un enw a gyhoeddwyd gan Textuel. Mae nifer o’i brosiectau hefyd wedi cael eu cyhoeddi gan lyfrau Café Royal.

Cafodd arddangosfa unigol fawr, o’r enw “Proximity” ei ddangos yn Oriel Open Eye, Lerpwl, o fis Tachwedd 2024 hyd at Ionawr 2025.

Mae’n parhau i weithio ar brosiectau hirdymor.  

4
Rimrose Valley © Stephen McCoy

Gellir gweld gwaith Steve a Stephanie ar:  

  • http://mccoywynne.co.uk/projects.aspx
  • www.mccoywynne.co.uk

A gwaith archif Stephen McCoy ar:

  • http://mccoywynne.co.uk/stephen-mccoy-archive.aspx

 

Talk Photo


Mae TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.

Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.

Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.

Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.

Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn AM DDIM er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp