Browser does not support script.
23 Tachwedd, 2013, 12pm
23/11/2013 12:00:00
Dewch gyda ni ar siwrnai drwy amser a gofod...
...i fyd The Mighty Boosh!
Mae Oriel Colwyn yn falch o ymuno â Theatr Colwyn a Dave Brown i gyflwyno The Mighty Boosh-a-thon.
Byddant yn dangos yr 20 pennod, yn syth ar ôl ei gilydd o Gyfres 1 - 3 o sioe gwlt y BBC ‘THE MIGHTY BOOSH’ yn serennu Noel Fielding, Julian Barratt a DAVE BROWN! 12 awr ddi-dor o ‘Boosh'ness’, o hanner dydd tan haner nos i’w weld ar Dafluniad Digidol 4k Sony!
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar y cyd â’n harddangosfa ffotograffiaeth TOUGH CROWD gan Dave (Bollo the Gorilla yn The Mighty Boosh) Brown.
Gan wneud ymddangosiad arbennig yn ystod Boosh-a-thon, fe fydd Dave yn treulio amser yn siarad am ei fywyd gyda The Boosh, ei arddangosfa TOUGH CROWD a’i waith parhaus fel Llysgennad ar gyfer AfriKids, elusen sydd yn helpu plant yn Ghana.
Tocynnau yn £10 ac mae elw’r Boosh-a-thon yn mynd i AfriKids.
Prynwch docynnau yma neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar: 01492 577888/872000
Mae’r digwyddiad hwn er budd AfriKids, ystyriwch roi eich cefnogaeth.
Tystysgrif 15
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.