Clwb Ffilm Ffotograffiaeth #001

Alexandra Bombach a Mo Scarpelli

27 Tachwedd, 2021, 12am

Date(s)
27/11/2021
Cyswllt
Alexandra Bombach a Mo Scarpelli
Disgrifiad
1

Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn ymweld â digwyddiad Gŵyl Ffotograffiaeth Northern Eye Oriel Colwyn ym mis Hydref. Ryda’ ni wedi gweld eich colli chi a’r holl ryngweithio ac ymgysylltiad â ffotograffiaeth y gall digwyddiadau fel hyn eu darparu.

Gyda hyn mewn golwg, mae ein Curadur wedi bod yn edrych ar ffyrdd o redeg digwyddiadau ffotograffiaeth mwy rheolaidd er mwyn annog cyfarfod yn ddiogel am drafodaeth, ymgysylltiad a mwynhad.

Rydym ni felly’n hapus i gyhoeddi menter newydd CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH a fydd yn dangos ffilm neu raglen ddogfen yn seiliedig ar ffotograffiaeth bob ryw 6 wythnos ar brynhawn dydd Sadwrn yn sinema fendigedig Theatr Colwyn.

Dyma gyfle i wylio ffilm sy’n ymwneud â ffotograffiaeth, cyfarfod hen ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd ac yna mynd am ddiod neu bryd bach o fwyd rywle yn y dref i gymdeithasu fel y mynnwch chi.

Rydym yn dechrau ein digwyddiad Clwb Ffilm Ffotograffiaeth cyntaf DDYDD SADWRN 27 TACHWEDD am 4pm (drysau’n agor am 3.30pm) lle byddwn yn dangos y ffilm FRAME BY FRAME .

O… ac un peth arall, nid clwb ydi o mewn gwirionedd, dim ond hoffi’r enw oeddem ni … Dydi o ddim yn rhywbeth dethol, does dim rhaid i chi ymuno ac mae yna groeso i bawb! 


FRAME BY FRAME 

-   Cyfarwyddwyd gan Alexandra Bombach a Mo Scarpelli Tystysgrif (15)

DYDD SADWRN 27 TACHWEDD am 4pm (drysau’n agor am 3.30pm)   

Ar ôl degawdau o ryfeloedd a chyfundrefn ormesol y Taliban, mae pedwar ffoto-newyddiadurwr Affgan yn wynebu realiti adeiladu gwasg rydd mewn gwlad sydd wedi'i gadael i sefyll ar ei phen ei hun – gan ail-fframio Affganistan i’r byd ac iddyn nhw eu hunain.

Pan oedd y Taliban yn rheoli Affganistan, roedd tynnu lluniau yn drosedd. Ar ôl cwymp y Taliban yn 2001 dechreuodd gwasg rydd newydd ymddangos a ganwyd chwyldro ffotograffiaeth. Wrth i’r milwyr a’r cyfryngau tramor gilio, roedd Affganistan a’i newyddiadurwyr ar eu pen eu hunain. Wedi’i gosod mewn Affganistan fodern sy’n fwrlwm o liw a chymeriad, mae FRAME BY FRAME yn dilyn pedwar ffoto-newyddiadurwr Affgan wrthi iddynt ddod o hyd i'w ffordd mewn tirlun cyfryngau newydd a pheryglus – gan ail-fframio Affganistan i’r byd ac iddyn nhw eu hunain. Drwy arddull cinéma vérité, cyfweliadau personol iawn, ffoto-newyddiaduraeth bwerus a ffilm archif wedi'i thynnu'n gudd yn ystod cyfundrefn y Taliban, mae'r ffilm yn cysylltu cynulleidfaoedd â phedwar o bobl sy'n ceisio darganfod y gwir. 

"Archwiliad treiddiol, teimladwy ac — fel sy’n gweddu i’w bwnc — wedi’i gyfansoddi’n wych o’r heriau a’r cyfrifoldebau a wynebwyd gan ffoto-newyddiadurwyr yng ngwasg rydd ar ôl y Taliban Affganistan." – Variety

“Dilynwch bedwar ffoto-newyddiadurwr sy’n canolbwyntio ar y dyfodol..." – Los Angeles Times 

"Rhaglen ddogfen bwerus sy’n llawn enaid... Wrth i ddelweddau’r pynciau archwilio rhwygiadau heb eu gwella o ran rhywedd, ffydd a braint mewn gwlad sy’n dal i fod yn elyniaethus i newyddiaduraeth ryddfrydol... yn ei thro, mae’r ffilm yn profi pŵer gwrthdrawiadol a chathartig lens y camera bob yn ail." – VARIETY

"Darn cain yn weledol sydd wedi’i olygu’n ddeheuig, un sy’n dangos harddwch Affganistan mewn ffordd nad yw gwledydd y Gorllewin bron byth yn ei weld." – INDIEWIRE

 "Grymus... ysbrydoledig... teimladwy." - LA Observed 

"Teyrnged arbennig i bŵer ffoto-newyddiaduraeth." – Newyddiadurwr o Hollywood

"Hanes gweledol angenrheidiol" – TIME

"Mae’r ffilm yn cynnwys ffotograffwyr sy’n angerddol am adrodd straeon o wir hunaniaeth Affganistan – p’un a eu bod yn deilwng o sylw ai peidio." – Culture

"Mae’n cydbwyso trais y ffilm mewn ardal lle mae gwrthdaro gyda dynoliaeth a hiwmor..." – Filmmaker Magazine

"Mae’n rhoi llais angerddol i weledigaeth Affgan.” – The Washington Post 

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp