Clwb Ffilm Ffotograffiaeth #003

Roger Tiley

5 Mawrth, 2022, 12am

Date(s)
05/03/2022
Cyswllt
Roger Tiley
Disgrifiad
1

Mae’r CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn cynnal ffilm ffotograffiaeth neu ddogfennol bob 4 i 6 wythnos yn sinema fendigedig Theatr Colwyn.

Dyma gyfle i wylio ffilm sy’n ymwneud â ffotograffiaeth, cyfarfod hen ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd ac yna mynd am ddiod neu bryd bach o fwyd rywle yn y dref i gymdeithasu fel y mynnwch chi.

Mae ail ddigwyddiad y Clwb Ffilm Ffotograffiaeth yn cael ei gynnal DDYDD SADWRN 5 MAWRTH am 3.30pm (drysau ar agor am 3.00pm) a byddwn yn dangos y ffilm PRIDE IN OUR VALLEY .

O… ac un peth arall, nid clwb ydi o mewn gwirionedd, dim ond hoffi’r enw oeddem ni… Dydi o ddim yn rhywbeth dethol, does dim rhaid i chi ymuno ac mae yna groeso i bawb! 


PRIDE IN OUR VALLEY

- Cyfarwyddwr: ROGER TILEY   Oedran: (i’w gadarnhau)

+ ‘Good Evening: Elvis is Dead' (ffilm ddogfen fer yn dilyn artistiaid teyrnged a chefnogwyr yng Ngŵyl Elvis, Porthcawl)

Gyda sesiwn holi ac ateb gyda’r cyfarwyddwr wedyn 

DYDD SADWRN 5 Mawrth 2025 am 3.30pm (drysau’n agor am 3.30pm)

Premiere Gogledd Cymru!

Ffilm a sesiwn holi ac ateb gyda’r cyfarwyddwr, Roger Tiley

Ffilm ddogfennol sinematig sy’n olrhain blwyddyn yng Nghwm Dulais, ble mae’r diwydiant glo wedi diflannu bron. Caewyd y pwll glo brig diwedd 2021 ond parhaodd yr olchfa ar agor tan ddechrau 2022, gan ddod â hanes hir yr ardal o gloddio i ben.

Yn ystod streic y glowyr yn 1984/85, ffurfiodd lesbiaid a hoywon grŵp o’r enw ‘Lesbians and Gays Support the Miners'. Fe deithion nhw o Lundain ac ymweld â Chwm Dulais, gan roi arian i lowyr a oedd yn streicio a’u teuluoedd. Caiff yr hanes ei dramateiddio yn y ffilm ‘Pride’. Mae’r cwlwm rhwng LGSM a’r gymuned leol yn dal yn gryf hyd heddiw, ac maen nhw’n dal yn ymweld yn aml â Chwm Dulais.


Roger Tiley

Cafodd Roger Tiley (Rog) ei eni yn 1960 a’i fagu mewn cymuned lofaol yng nghymoedd y de. Yn wir, roedd llawer o’i berthnasau yn lowyr.

Tra’r oedd yn astudio ar gyfer ei lefel A yn y coleg chweched dosbarth lleol, gwahoddwyd Roger i ymuno â chwrs ffotograffiaeth Lefel A newydd, gan fod y darlithydd yn fyr o fyfyrwyr a Roger yntau yn wynebu cael ei wahardd o’r coleg. Newidiodd hyn ei fywyd ac ar ôl cwblhau ei Lefel A dechreuodd brentisiaeth fel ffotograffydd diwydiannol ar gyfer cwmni rhyngwladol a oedd yn gweithgynhyrchu darnau ceir.

Rhoddodd hyn sylfaen gadarn iddo, ond ffotograffiaeth ddogfennol oedd yn mynd â’i fryd ac yn 1982 cafodd Roger le ar gwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol clodfawr, dan arweiniad David Hurn, ffotograffydd Magnum.

Ar ôl cwblhau’r cwrs yma dechreuodd weithio ar gyfer papurau newydd a chylchgronau cenedlaethol a rhyngwladol. Cafodd ei waith sylw cenedlaethol, yn arbennig ei waith ar ardaloedd glofaol yn ystod streic y glowyr yn 1984/85.

Arweiniodd y gwaith cynnar yma at gomisiynau yn y DU a’r UDA, a bu’n dangos mewn nifer o arddangosfeydd grŵp ac unigol.

Mae Roger wedi rhoi darlithoedd yn y DU a’r UDA, ac wedi bod yn gweithio fel darlithydd mewn cyfryngau lens. Ond ei athroniaeth yw dilyn eich pregeth eich hun. Meddai Roger: "Many in academia talk a good talk and not practice what they preach!"

Yn fwy diweddar mae Roger wedi bod yn gweithio ar aseiniadau delweddau symudol, gan gyfarwyddo ffilm ddogfen sinematig dan y teitl ‘Pride in our Valley’.

Mae ei ddiddordebau’n cynnwys chwarae rygbi yn 60 oed, cadw’n heini a dawnsio. ��

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp