Mae’r CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn dangos ffilm neu raglen ddogfen sy’n ymwneud â ffotograffiaeth bob tua 6 wythnos yn sinema fendigedig Theatr Colwyn.
Dyma gyfle i wylio ffilm sy’n ymwneud â ffotograffiaeth, cyfarfod hen ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd ac yna mynd am ddiod neu bryd bach o fwyd rywle yn y dref i gymdeithasu fel y mynnwch chi.
Cynhelir pedwerydd digwyddiad ein Clwb Ffilm Ffotograffiaeth DDYDD IAU 28 EBRILL am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) , a byddwn yn dangos y ffilm PECKER .
O… ac un peth arall, nid clwb ydi o mewn gwirionedd, dim ond hoffi’r enw oeddem ni … Dydi o ddim yn rhywbeth dethol, does dim rhaid i chi ymuno ac mae yna groeso i bawb!
PECKER
- cyfarwyddwr: John Waters, Tystysgrif (15)
DYDD IAU 28 EBRILL 2022 am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm)

Gan newid i nos Iau y mis yma, mae’r Clwb Ffilm Ffotograffiaeth yn cyflwyno golwg ysgafn (y mae wir ei hangen) ar y byd ffotograffiaeth a chelf drwy ddangos PECKER , ffilm glasur cwlt John Waters o 1998, am un noson yn unig.
Waters (“Hairspray”, “Pink Flamingo”) sy’n cyfarwyddo’r ffilm gomedi anghonfensiynol hon sy’n dychanu rhodres y byd celf wrth ddilyn hynt a helynt ffotograffydd amatur diniwed. Mae Pecker (Edward Furlong) yn ennill ei fywoliaeth yn gweithio y tu ôl i gownter siop frechdanau, ond mae’n dod yn fyw y tu ôl i lens camera. Pan mae masnachwr celf yn darganfod ei ffotograffau o’i deulu a’i ffrindiau rhyfedd, mae’n penderfynu eu bod yn gampweithiau ac yn mynd ati i sicrhau bod Pecker yn destun edmygedd ymhlith selogion orielau Efrog Newydd. Ond a fydd ei enwogrwydd newydd yn ymddieithrio Pecker oddi wrth destunau ei ffotograffau, yn enwedig Shelly (Christina Ricci), sef y ferch y mae’n ei charu?
Golwg feiddgar ar fywyd fel artist sy’n dechrau dod i’r amlwg a chipolwg slei ar y trafferthion sydd ynghlwm â llwyddiant ym myd celf Manhattan. Mae Pecker yn mynd i’r afael â’r union gyfyngderau a fyddai’n wynebu unrhyw un sydd â’u bryd ar droi eu cariad at ffotograffiaeth yn broffesiwn neu’n derbyn yr alwad hudol i’w ddilyn fel galwedigaeth.