BILL CUNNINGHAM NEW YORK
Dydd Iau 14 Gorffennaf
7pm (drysau yn agor am 6.30pm)

Mae’r CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn dangos ffilm neu raglen ddogfen sy’n seiliedig ar ffotograffiaeth bob 6 wythnos yn fras yn sinema hyfryd Theatr Colwyn.
Bydd cyfle i wylio ffilm sy’n seiliedig ar ffotograffiaeth, cwrdd â hen ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd, cewch eich ysbrydoli!
Mae pumed digwyddiad y Clwb Ffilm Ffotograffiaeth ddydd IAU 14 Gorffennaf am 7pm (drysau yn agor am 6.30pm) lle byddwn yn dangos y ffilm BILL CUNNINGHAM NEW YORK.
…ac un peth arall, nid yw’n glwb mewn gwirionedd, dim ond hoffi’r enw oeddem ni …Nid yw’n gyfyngedig, nid oes rhaid i chi ymuno ac mae croeso i bawb!
BILL CUNNINGHAM NEW YORK
- cyfarwyddwr Richard Press
Tystysgrif (12A)
DYDD IAU 14 GORFFENNAF 2022 am 7pm (drysau yn agor am 6.30pm)

Mae’r Clwb Ffilm Ffotograffiaeth yn dangos BILL CUNNINGHAM NEW YORK am un noson yn unig.
Roedd Bill Cunningham, y ffotograffydd ffasiwn stryd a’r colofnydd steil ar gyfer papur newydd y New York Times, yn cael ei ystyried gan nifer yn drysor cenedlaethol.
Gyda thrysorfa weledol bum degawd o hyd o fynegiant diwylliannol, dawn unigol, amser a lle, fe lwyddodd Bill i ddal steil trigolion pen ucha’r ddinas ac unigolion ecsentrig canol y ddinas fel ei gilydd.
Roedd Bill Cunningham, cymdeithaswr annhebygol, yn teithio o amgylch Dinas Efrog Newydd ar feic, gan dynnu lluniau o ffasiwn y stryd. Yn un nad oedd yn hoff o sylw, cytunodd Cunningham yn y diwedd i gamu o flaen y camera ar gyfer y rhaglen ddogfen hon.

Gall ffotograffydd ffasiwn a gwrth-faterolwr ymddangos fel dau beth sy’n groes i’w gilydd ond mae’n disgrifio bywyd ffotograffydd y New York Times, Bill Cunningham, unigolyn a oedd yn gyfareddol a phob amser yn ddymunol a sy’n destun y rhaglen ddogfen hon sy’n hynod o ddifyr.
Dechreuodd ei yrfa ym myd ffasiwn fel gwneuthurwr hetiau yn y 1940au ac yna bu iddo ddarganfod yr hyn y bu’n angerddol yn ei gylch ar hyd ei oes sef dal ffasiwn y stryd ar gamera. Roedd yn ffigwr adnabyddus ar strydoedd Manhattan a llwyfannau Wythnos Ffasiwn Paris ac roedd ei fywyd mor ysbrydoledig â’i gariad tuag at ffotograffiaeth. Mae ‘Bill Cunningham New York’ yn dangos y dylanwad, ysbrydoliaeth a’r hwyl y gall ffasiwn y stryd ei gynnig i ni i gyd.