Gregory Crewdson: Brief Encounters
Dydd Gwener, 10 Mawrth,
7pm (drysau’n agor am 6:30pm)

Mae’r CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn dangos ffilm neu raglen ddogfen wedi’i seilio ar ffotograffiaeth bob tua 4-6 wythnos yn sinema fendigedig Theatr Colwyn.
Cewch wylio ffilm sy’n ymwneud â ffotograffiaeth, cwrdd â hen ffrindiau, gwneud ffrindiau newydd a chael eich ysbrydoli!
Bydd 8fed digwyddiad y Clwb Ffilm Ffotograffiaeth DDYDD GWENER, 10 MAWRTH am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) pan fyddwn yn dangos y ffilm GREGORY CREWDSON:BRIEF ENCOUNTERS (tystysgrif i’w chadarnhau).
O…. ac un peth arall, nid clwb ydi o mewn gwirionedd, hoffi’r enw oedden ni … dydi o ddim yn glwb caeedig, ‘does dim rhaid i chi ymuno ac mae 'na groeso i bawb!
GREGORY CREWDSON:BRIEF ENCOUNTERS
Cyfarwyddwr: Ben Shapiro. Tystysgrif i’w chadarnhau.
DYDD GWENER, 10 MAWRTH 2023 am 7pm (drysau’n agor am 6:30)

Mae GREGORY CREWDSON: BRIEF ENCOUNTERS yn broffil cyfareddol o Gregory Crewdson, y mae ei ffotograffau diddorol wedi’u trefnu’n gywrain ac yn adrodd hanes cain mewn un llun mawr, wedi’u lleoli mewn trefi bach neu fannau y tu mewn wedi’u hail-greu’n dra manwl, ac wedi’u creu mewn ystafelloedd mawr gwrthsain yr ydych chi’n eu cysylltu â ffilmiau mawr, drud.

Mae Gregory Crewdson yn ffotograffydd gwych sydd â llygad gwneuthurwr ffilm, ac mae ef wedi creu rhai o’r lluniau mwyaf atgofus a thrawiadol yn hanes y cyfrwng. Mae ei luniau mawr a manwl yn adrodd hanesion nodedig bywyd yn nhrefi bach America - golygfeydd wedi’u crisialu mewn un llun.
Er bod y ffotograffau wedi’u trefnu â chriwiau sydd gydradd â chynyrchiadau ffilm nodwedd, mae Crewdson yn cymryd cymaint o ysbrydoliaeth o’i freuddwydion a’i ffantasïau ef ei hun ag o fydoedd Alfred Hitchcock, David Lynch, Edward Hopper a Diane Arbus. Mae delweddau Crewdson wedi ymdreiddio i ddiwylliant pop hefyd - yn cynnwys ei hysbysebion Six Feet Under unigryw a chelf albwm Yo La Tengo. Mae Gregory Crewdson: Brief Encounters wedi’i ffilmio dros ddegawd ac mae’n rhoi cyfle digyffelyb i weld proses yr artist mewn modd bendigedig - ac mae’r un mor hudol a diddorol â’r lluniau eu hunain.


Rydym ni’n cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth Ffilm Cymru Wales ar gyfer ein dangosiadau Clwb Ffilm Ffotograffiaeth rheolaidd
