Clwb Ffilm Ffotograffiaeth #009 – Don’t Blink – Robert Frank
DON'T BLINK - ROBERT FRANK
Dydd Mercher 24 Mai
7pm (drysau’n agor am 6.30pm)
Mae’r CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn dangos ffilm neu raglen ddogfen wedi’i seilio ar ffotograffiaeth bob tua 4-6 wythnos yn sinema fendigedig Theatr Colwyn.
Cewch wylio ffilm wedi’i seilio ar ffotograffiaeth, cwrdd â hen ffrindiau, gwneud ffrindiau newydd a chael eich ysbrydoli!
Mae 9fed digwyddiad y Clwb Ffilm Ffotograffiaeth yn cael ei gynnal DDYDD MERCHER 24 MAI am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm), a byddwn yn dangos y ffilm DON'T BLINK - ROBERT FRANK (tystysgrif i’w gadarnhau.
O… ac un peth arall, nid clwb ydi o go iawn, dim ond hoffi’r enw oeddem ni… Dydi o ddim yn rhywbeth dethol, does dim rhaid i chi ymuno ac mae croeso i bawb!
Clwb Ffilm Ffotograffiaeth #009
DON'T BLINK - ROBERT FRANK
- cyfarwyddwr: Laura Israel Tystysgrif (i’w gadarnhau)
DYDD MERCHER 24 MAI 2023 am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm)

Bu i Robert Frank chwyldroi ffotograffiaeth a ffilmiau annibynnol. Dogfennodd y Beats, glowyr Cymru, Indiaid Periw, The Stones, bancwyr Llundain a’r Americanwyr. Dyma daith anesmwyth a ddatgelir gyda gonestrwydd plaen gan yr artist enciliol ei hun.

Llun o Robert Frank gan Lisa Rinzler, hawlfraint Assemblage Films LLC.
Byddai ffrindiau Robert Frank hyd yn oed yn dweud ei fod yn gymeriad anodd. Yn un o’r ffigyrau mwyaf dylanwadol ym myd ffotograffiaeth a ffilmiau annibynnol, doedd Frank erioed yn gymeriad agos-atoch. Am dros chwe degawd, cadwodd yn ddiwyro at un weledigaeth, gan ennill clod helaeth heb golli ei statws o fod ar y cyrion.

Photo Eye Collage gan Robert Frank, hawlfraint Robert Frank.
Mae Don't Blink yn dilyn hynt Frank o’i fywyd teuluol cynnar yn y Swistir i’w amharodrwydd i groesawu enwogrwydd yn Efrog Newydd i’w ymgais yn y pen draw i ganfod unigrwydd mewn cornel bellennig o Nova Scotia, Canada. O ganlyniad i gyfres o drasiedïau personol, aeth Frank ar daith boenus i archwilio ei deimladau cymhleth am ei deulu a’i ffrindiau, cof a cholled, derbyn newid ac unigrwydd. Mae Don't Blink yn cynnig cipolwg dadlennol i gynulleidfaoedd o gywreinrwydd ei ffotograffau, ei ffilmiau a’i hanes personol, a hynny gan fynd ati’n ddeheuig i ddatgelu hanes bywyd cymhleth Robert Frank.

Llun yn stiwdio Robert Frank gan Lisa Rinzler, hawlfraint Assemblage Films LLC.
Mae bywyd a gwaith Robert Frank - fel ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau - wedi’u cydblethu cymaint fel mai’r un peth ydyn nhw yn y pen draw, ac mae ehangder y pynciau y mae wedi mynd i’r afael â nhw, o’r Americanwyr ym 1958 hyd at ei farwolaeth yn 2019, wedi’i gofnodi’n drylwyr yn ei gorff aruthrol o waith artistig. O’r 90au cynnar ymlaen, roedd Frank wedi bod yn gwneud ffilmiau a fideos gyda’r golygydd talentog Laura Israel, sydd wedi’i helpu i gadw naws gartrefol yn ei waith a chadw sbarc y cyswllt cyntaf rhwng y camera a’r bobl/llefydd. Mae Don’t Blink yn bortread gan Israel o’i ffrind a’i chydweithiwr, sy’n gyfuniad bywiog o ddelweddau a synau a hen ddyfyniadau, colledion anesboniadwy a chyfeillgarwch, sy’n rhoi i ni gipolwg sydyn a byrhoedlog o fywyd y dyn a aned yn y Swistir ac a ail-greodd ei hun yn y ffordd Americanaidd.
- Disgrifiad y New York Film Festival

Llun o Robert Frank gan Sid Kaplan oddi ar daflen gyswllt, hawlfraint Sid Kaplan
Rydym yn cydnabod cefnogaeth Ffilm Cymru i ddigwyddiadau rheolaidd y Clwb Ffilm Ffotograffiaeth, gyda diolch.
