What Remains: The Life and Work of Sally Mann

Mae’r CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn cynnal ffilm neu raglen ddogfen ffotograffiaeth bob tua 4-6 wythnos yn sinema fendigedig Theatr Colwyn.
Cewch wylio ffilm yn seiliedig ar ffotograffiaeth, cwrdd â ffrindiau, gwneud ffrindiau newydd a chael eich ysbrydoli!
Cynhelir ein 11eg digwyddiad Clwb Ffilm Ffotograffiaeth NOS WENER 29 Medi am 7pm (drysau’n agor am 6:30pm) pan fyddwn yn dangos y ffilm WHAT REMAINS: THE LIFE AND WORK OF SALLY MANN.
O…. ac un peth arall, nid clwb ydi o mewn gwirionedd, hoffi’r enw oedden ni … dydi o ddim yn glwb caeedig, ‘does dim rhaid i chi ymuno ac mae na groeso i bawb!
Clwb Ffilm Ffotograffiaeth #011
What Remains: The Life and Work of Sally Mann
- cyfarwyddwr: Steven Cantor. Tystysgrif (i’w gadarnhau)
DYDD GWENER 29 MEDI 2023 AM 7pm (drysau’n agor am 6.30pm)


Fel un o ffotograffwyr amlycaf y byd, mae Sally Mann yn creu gwaith celf sy’n herio gwerthoedd ac agweddau moesol gwylwyr. Wedi’i disgrifio gan y cylchgrawn Time fel “ffotograffydd gorau America”, daeth i amlygrwydd rhyngwladol am y tro cyntaf yn 1992 gydag “Immediate Family”, cyfres o luniau cymhleth, enigmatig o’i phlant ei hun. Cafodd y gwaith hwn, a’r anghydfod yn ei sgil, ei gofnodi yn ffilm fer arobryn Steven Cantor, Blood Ties.

Mae WHAT REMAINS yn troi’n ôl at ddilyn gwaith arloesol newydd Mann: cyfres o ffotograffau sy’n ymwneud ag agweddau amrywiol ar farwolaeth a dadfeilio. Er nad yw Sally Mann yn un i gyfaddawdu, mae’n myfyrio ar ei theimladau personol tuag at farwolaeth wrth iddi barhau i archwilio ffiniau ffotograffiaeth gyfoes. Mae hi i’w gweld ar fferm ei theulu yn Virginia, gyda’i gŵr a’i phlant sydd wedi tyfu bellach o’i chwmpas, ac mae ei pharodrwydd i ddadlennu ei phroses artistig wrth iddi ddatblygu yn caniatáu i’r gwylwyr gael mynediad unigryw i’w byd.

Dros gyfnod o 5 mlynedd, mae WHAT REMAINS wedi rhoi mynediad agored i’r holl gamau sy’n perthyn i waith Mann, ac mae’n cynnig cipolwg prin ar artist huawdl ac arbennig.
Rydym ni’n cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth Ffilm Cymru Wales ar gyfer ein dangosiadau Clwb Ffilm Ffotograffiaeth rheolaidd.