18% Collective: Copi Gwreiddiol

Amrywiol

27 Chwefror, 2020 - 21 Mawrth, 2020

Date(s)
27/02/2020 - 21/03/2020
Cyswllt
Amrywiol
Disgrifiad
1

Arddangosfa Ffotograffiaeth FdA 2020 – Coleg Llandrillo

Ar ddechrau pob blwyddyn, mae Oriel Colwyn yn cymryd y cyfle i gefnogi ac arddangos arddangosfa grŵp myfyrwyr ail flwyddyn sy’n cwblhau cwrs Ffotograffiaeth FdA Coleg Llandrillo.

Eleni rydym ni’n cyflwyno gwaith:

Sarah Williams

Dw i’n ymddiddori mewn portreadu ac mae’r gwaith dw i’n ei greu wedi’i ddylanwadu’n fawr gan iaith weledol ffilmiau arswyd a genres cysylltiedig eraill. Mae defnyddio ffurf sefydledig i gynrychioli ofn a thrawma lle mae merched yn cael eu darlunio fel dioddefwyr yn ffordd i mi herio’r sefyllfa a dderbynnir.

2
Dim teitl © Sarah Williams

Katie Valintine

Mae fy ngwaith yn yr arddangosfa hon yn canolbwyntio ar faterion sy’n gysylltiedig â’r diwydiant ffasiwn. Mae cyflwr y Ddaear a cheisio ei hachub yn bwysig i lawer o bobl ac mae tynnu sylw at feysydd sy’n destun pryder drwy fy ffotograffiaeth wedi bod yn rhywbeth gwerth chweil.

3
Dim teitl © Katie Valintine

Harley  Davies

Mae’r newid graddol yn niwylliant canol trefi o gyflenwi nwyddau i adloniant wedi cael effaith fawr ar dirlun cymdeithasol Prydain. Lle’r oedd unwaith siopau ac unig fasnachwyr, mae yna rŵan glybiau, barrau a chaffis. Yn ystod y dydd mae’r trefi sydd ar drengi yn llawn pobl nad ydyn nhw’n gallu fforddio’r profiad allan o’r dref. Maen nhw’n prynu pethau o siopau bargeinion ac yn eistedd y tu allan gyda ffrindiau yn yfed coffi Costa ar ddiwrnodau oer a gwlyb. Mae’r genhedlaeth iau yn dod allan gyda’r hwyr, i boblogi’r barrau ac i fwynhau’r nos. Dyma fi, a Bae Colwyn yw fy nhref. Dw i fel arfer yn mynd i Noah’s, sydd wedi’i ailwampio’n ddiweddar, yng nghanol Bae Colwyn. Dyma’r lle dw i’n cwrdd â ffrindiau, chwarae pŵl, gwrando ar gerddoriaeth a thynnu lluniau o’r nosweithiau. Mae nos Wener yn noson dda iawn, gyda’r llawr dawnsio’n cael ei oleuo a’r parti ar ei anterth, a dw i’n mynd ar ôl tynnu’r lluniau.

Kalen Lindell

Mae’r diwydiant ceir yn obsesiwn byd-eang ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf dw i wedi bod yn dogfennu’r sîn Prydeinig, gan deithio ar hyd a lled y wlad, ddydd a nos, i fynd i gymaint o ddigwyddiadau ceir â phosibl. Mynd i feysydd parcio ar nosweithiau oer a rhewllyd i ddathlu’r addasiadau diweddaraf sy’n cael eu gwneud gan bobl sydd yr un mor frwdfrydig am geir â fi, siarad am injans, uwchraddiadau, trin a thyniant – o am fynd yn ôl i’r dyddiau cynnar hynny. Ar benwythnosau mi fyddwch chi fel arfer yn fy ngweld i mewn digwyddiadau trac, gyda’r camera yn barod, yn tynnu lluniau o’r prysurdeb tu ôl i’r llwyfan a’r cyfeillgarwch.

Denise Baker

Wedi refferendwm Brexit, mi es i arddangosiadau, nid fel arsyllwr llonydd ond fel cyfranogwr gweithgar. Fel gweithredydd dw i wedi treulio fy mywyd yn sefyll dros hawliau pobl a gwneud yn siŵr bod pobl yn clywed fy llais. Rŵan yn oes y rhyngrwyd a rhwydweithio cymdeithasol, dw i’n defnyddio fy nghamera yn ogystal â’m llais, nid i greu cynnwys golygyddol ond i ddogfennu a rhannu straeon sy’n datblygu ar y stryd. Dechreuais edrych ar y negeseuon hefyd; mae protestiadau Prydeinig yn dweud llawer am y natur Brydeinig, mae’r baneri a’r hysbyslenni yn dangos ‘cwrteisi’; arddull gynnil o hiwmor sy’n rhywbeth penodol iawn i Brydain.

4
Dim teitl © Denise Baker 

Callum Humphreys

MONA

Ar ôl disgyn i drap tref fach o wneud dewisiadau bywyd niweidiol, penderfynais yn fy ugeiniau canol i roi’r gorau i’r arferion afiach. O ganlyniad mi oeddwn i’n llawer mwy mewndroëdig, ond bodlon, gyda ffurf newydd ar eglurder. Yn sydyn sylweddolais nad oeddwn i’n gwybod dim byd am yr ynys wledig a thawel oedd wedi fy siapio.

Nod y prosiect oedd ailgysylltu â’r fro sy’n gartref i mi, a datgodio’r amodau a arweiniodd i mi ei gadael unwaith.

5
Dim teitl © Callum Humphreys

Jade Vickers

Mae’r llyfr sy’n cael ei arddangos yma yn cael ei alw’n llyfr ‘dymi’ gan gyhoeddwyr. Hwn ydi’r ymgais gyntaf i osod y gwaith mewn rhyw fath o drefn. Dw i’n trio adrodd hanes fy mywyd mewn ffordd weledol gywrain. Dydi’r delweddau ddim mewn trefn gronolegol ond maen nhw wedi’u gosod ar y tudalennau mewn ffordd sy’n cyfleu fy syniad i o gof. Mae’r drefn yn cynnig posibiliadau newydd o haenau a chysylltiadau, ac mewn blynyddoedd i ddod, tybed ai’r delweddau hyn fydd yr unig dystiolaeth gadarn o’r atgofion? A fyddaf wir yn gwybod beth wnes i cyn neu ar ôl tynnu’r llun? Oni bai am y llun, a fyddaf yn cofio’r eiliad o gwbl?

6
Dim teitl © Jade Vickers

Abby Georgia Anton

Wedi fy magu ar arfordir gogledd Cymru, roedd chwareli llechi yn rhywbeth yr oeddwn i’n ei gysylltu â mynyddoedd Eryri ac yn rhywbeth oedd yn perthyn i hanes. Roedd yr hen chwareli llechi a’r mynyddoedd o wastraff llechi a welais ar ein teithiau yn y car yn rhan o gefndir gogledd Cymru. Ychydig iawn a wyddwn ei fod yn ddiwydiant a siapiodd y byd diwydiannol ac a effeithiodd ar ddiwylliant gogledd Cymru’n sylweddol, fel y cymoedd glo yn y de. 

7
Dim teitl © Abby Georgia Anton

Bob Mcraight

Testun i ddilyn…

8

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp