Gan ymestyn ein cefnogaeth i addysg barhaus ffotograffiaeth ymhellach, mae Oriel Colwyn yn falch o gyflwyno unwaith eto eleni, yr olaf o dair sioe blwyddyn olaf y cwrs gradd gan fyfyrwyr ffotograffiaeth Coleg Llandrillo.
Bydd pob arddangosfa fer yn arddangos ffotograffwyr cyfredol sy’n dod i’r amlwg.
Sioe Radd - B A (ANRHYDEDD) mewn Cyfryngau Creadigol
"Mae pedwar myfyriwr hŷn, Darren Foster, Sue Vincent, Laura Morris a Mel Tutton (D.S.L.M) yn brawf na fydd dychwelyd i addysg i oedolion yn ymdoddi eich ymennydd......Ni fydd mynd i’r coleg yn gwneud i chi deimlo’n hen neu allan o’i le..... ond bydd yn eich helpu i gwrdd â phobl anhygoel a gorau oll, yn helpu i arddangos y doniau y gwyddom ni i gyd yn ddistaw bach eu bod yn bresennol y tu mewn i ni".
Mae’r grŵp yn codi arian ar gyfer eu harddangosfa - cliciwch YMA os hoffech helpu.
Darren Foster
Fel ffotograffydd dogfennol, mae dod o hyd i’r harddwch mewn goddrychau anghonfensiynol wastad wedi rhyfeddu Darren.
Mae lluniau yn yr arddangosfa hon yn gasgliad cronnus o waith yn cynnwys lluniau newydd o flwyddyn olaf y cwrs gradd.

Sue Vincent
Fel myfyriwr hŷn a oedd yn dychwelyd i addysg ar ôl bwlch o 40 mlynedd, bwriad Sue oedd defnyddio ei hyfforddiant ffurfiol mewn blodeuwriaeth i gefnogi ei diddordeb mewn ffotograffiaeth.
Roedd Sue yn meddwl y byddai’r dewis o liwiau a’r ffordd y maen nhw’n rhyngweithio a’r ffurfiau sy’n cael eu creu mewn celf blodau yn dylanwadu ar ei gwaith. Ond yn ei blwyddyn gyntaf, cafodd Sue ei hudo gan yr ystafell dywyll i fyd o ddu a gwyn a’r ffordd y mae cyferbyniad yn disodli lliw i ddiffinio’r llun.
Daeth cyfuno’r ddisgyblaeth hon gyda phortreadau a chariad Sue at ryngweithiadau pobl yn fyd ffotograffig iddi.

Laura Morris
Ffotograffydd tirluniau a dogfennol yn astudio BA (Anrhydedd) mewn Cyfryngau Creadigol yng Ngholeg Llandrillo Menai.
Ganwyd Laura yng Ngogledd Cymru ac yno y mae hi wedi byw am y rhan fwyaf o’i bywyd. Mae hyn wedi cael dylanwad mawr arni a dyma’r cymhelliant ar gyfer llawer o’i hymdrechion creadigol. Mae digonedd o harddwch naturiol eithriadol i’w gael yng ngolygfeydd Gogledd Cymru ac mae tynnu lluniau ohono wedi bod yn brofiad sy’n newid bywyd.

Mel Tutton
Mae’r arddangosfa hon yn edrych tuag at yn ôl ar astudiaeth tair blynedd Mel yng Ngholeg Llandrillo, mae’n mapio’r daith y mae wedi bod arni a’r tirluniau sydd wedi mynnu ei sylw.

Dolen codi arian (cliciwch i’w weld - mae’n agor mewn ffenestr newydd)