A Bay View

Photographer Name 1

2 Ebrill, 2024 - 7 Mehefin, 2024

Date(s)
02/04/2024 - 07/06/2024
Cyswllt
Photographer Name 1
Disgrifiad
mark-mcnulty-a-bay-view-1

event poster

Tua diwedd 2023, bu i Oriel Colwyn Gŵyl Ffotograffiaeth y Northern Eye weithio gyda’r ffotograffydd Mark McNulty i greu archif ac arddangosfa newydd. 

Wedi ei ysbrydoli’n uniongyrchol gan Daniel Meadows a’i waith hanesyddol ‘The Free Photographic Omnibus’ sy’n dogfennu bywyd yn y DU yn 1973

mark-mcnulty-a-bay-view-2
The Free Photographic Omnibus 1973 ©Daniel Meadows

Ar 22 Medi 1973, aeth Daniel Meadows ar antur a gynlluniwyd ers tro a dros y 14 o fisoedd a ddilynodd, teithiodd dros 10,000 o filltiroedd ar ei ben ei hun ac ymweld â 22 o drefi a dinasoedd. Roedd yn parcio mewn canolfannau siopa ac ar brif strydoedd, ac roedd Daniel yn cynnig sesiynau portread am ddim i bawb, gan ddatblygu eu lluniau dros nos a’u rhoi iddynt y diwrnod canlynol.

Fe dynnodd lun o 958 o bobl.

A Bay View

Gofynnwn ni ffotograffydd Gogledd Cymru Mark McNulty i gweithio hefo ni i greu ei’n arddangosfa newydd – A Bay View. Yn ystod hanner tymor mis Hydref, bu i ni gynnal stiwdio dros dro yng Nghanolfan Siopa Bayview a thynnu lluniau’r bobl a oedd yn cerdded heibio am gyfnod o bedwar diwrnod. 

mark-mcnulty-a-bay-view-3
Peter & Phythian, November 2023 ©Mark McNulty

Roeddem eisiau creu archif o bobl yn ein tref ein hunain, 50 mlynedd yn ddiweddarach yn 2023. 

Bu i ni dynnu llun 307 o bobl. 

mark-mcnulty-a-bay-view-4
Jess, October 2023 ©Mark McNulty

Y ciplun hwn yw ein harchif ein hunain o bobl a bywyd ym Mae Colwyn yn 2023. Rydym yn gobeithio ymhen 50 mlynedd arall y gellir edrych yn ôl arno gyda’r un anwyldeb ag y mae edrych ar ffotograffau Daniel Meadows yn ei gael arnom rŵan, gan gofio wynebau, cyfeillgarwch a ffasiwn… a bod y bobl y gwnaethon ni dynnu eu llun yn gallu cymryd eu lle eu hunain mewn hanes. 

mark-mcnulty-a-bay-view-5
Julie, Nov 2023 ©Mark McNulty

mark-mcnulty-a-bay-view-6
Lenard, Nov 2023 ©Mark McNulty

Galwch heibio i weld y set lawn o luniau, a fydd yn cael eu harddangos yng nghyntedd adeilad y Cyngor Coed Pella ym Mae Colwyn o 19 Mawrth tan 07 Mehefin.  (DIRECTIONS / INFO – ar gau ar penwythnosau)

mark-mcnulty-a-bay-view-7
Gintas, Nov 2023 ©Mark McNulty

mark-mcnulty-a-bay-view-8
Vontay & Hannah, Oct 2023 ©Mark McNulty

Efallai byddwch chi’n gweld rhywun yr ydych yn ei adnabod? 

www.markmcnulty.co.uk

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp