Rydym yn falch o gael croesawu ‘A Fine Beginning’ yn ôl i Oriel Colwyn gyda’u harddangosfa ‘Made in Wales 2’, a agorodd i’r cyhoedd ar 1 Mawrth, Dydd Gŵyl Dewi. (Digwyddiad agoriadol y noson gynt, nos Lun, 29 Chwefror, rhwng 6:30pm a 9pm.)
Mae A Fine Beginning yn grŵp ffotograffiaeth Cymreig sy’n rhoi llwyfan i ffotograffwyr sy’n creu gwaith yng Nghymru ac o gwmpas Cymru ar gyfer eu prosiectau.
Arddangosir gwaith gan yr aelodau Abbie Trayler-Smith, Gawain Barnard, Francesca Jones a James O. Jenkins, ac mae’r sioe hefyd yn cynnwys 27 o ffotograffwyr y mae eu prosiectau wedi bod ar y blog. Mae dyddiadau’r gwaith celf yn amrywio o’r gorffennol i’r presennol.
Gellir gweld blog A Fine Beginning yma.
Mae arddangosfa ‘Made in Wales 2’ yn cynnwys gwaith y ffotograffwyr canlynol:
Abbie Trayler-Smith, Celia Jackson, Clémentine Schneidermann, Craig Bernard, Daragh Soden, Eleanor Whiteman, Francesca Jones, Gareth Phillips, Garry Stuart, Gawain Barnard, Geoff Charles, Huw Davies, James A. Hudson, James O. Jenkins, Jooney Woodward, Lewys Canton, Lua Ribeira, Mandy Thomas, Mark Griffiths, Marta Giaccone, Mike Harvey, Mira Andres, Nathan Klein, Neil Turner, Pete Davis, Peter Jones, Rob Hudson, Robert Haines, Roger Tiley, ein cyn-arddangoswr Stephen Clarke, y bu ei arddangosfa unigol Shifting Sands yn Oriel Colwyn yn 2013.
BlaenorolNesaf



