Browser does not support script.
Jonathan Patrick Smith
18 Gorffennaf, 2014 - 28 Awst, 2014
Mae’r arddangosfa hon yn rhan o brosiect hirdymor Jonathan yn dogfennu bywyd yn Norwy.
Mae rhan un, “Vigeland”, yn edrych ar y Vigelandsanlegget, sef cerflun unigryw a pharhaol sydd wedi’i leoli ym Mharc Frogner yn Oslo.
Mae Gustav Vigeland (1869-1943), a ddyluniodd fedal y Wobr Heddwch Nobel, yn bwysig iawn i hanes celf yn Norwy, er nad yw llawer yn gwybod amdano y tu allan i’r wlad. Bu i’w waith artistig helpu i hyrwyddo cerflunwaith yn ei famwlad.
Parc Vigeland yw’r parc cerfluniau mwyaf yn y byd a grëwyd gan un artist, gan arddangos dros 200 o gerfluniau efydd a gwenithfaen a adawyd i ddinas Oslo gan yr artist ei hun.
Mae ail ran yr arddangosfa hon yn canolbwyntio ar fywyd yn Oslo a rhanbarth Rogaland ar arfordir gorllewinol Norwy.
Cafodd Smith ei eni yng Ngogledd Cymru ym 1965. Astudiodd Ffotograffiaeth a Dylunio yn Surrey ac yn fe aeth ymlaen i weithio fel ffotograffydd golygyddol llawrydd. Gan rannu ei amser rhwng Norwy a Chymru, mae bellach yn canolbwyntio ar gelfyddyd gain a ffotograffiaeth ddogfennol, gan gymryd ei ysbrydoliaeth o ddylunio graffeg a phaentiadau yn ogystal â mathau eraill o ffotograffiaeth.
Mae’n gweithio gyda golau naturiol, gan ddefnyddio un neu ddwy lens hyd ffocal sefydlog, a thynnu lluniau o’i amgylchedd cyfagos yn aml: “rydw i’n ymddiddori mewn golau a ffurf, mae’r testun weithiau’n llai pwysig”. Yn “Vigeland”, mae’r ffigyrau dynol yn ymddangos yn fyw, yn llawn emosiwn ac yn cyferbynnu â gaeaf oer Norwy sydd i’w weld yn y llun yma. Mae purdeb a diniweidrwydd yma, gan ddangos ochr wahanol i gerfluniau Gustav Vigeland o’r ffurf ddynol sydd yn aml yn ddadleuol.
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.